Neidio i'r prif gynnwy

Alcohol

Alcohol yn y gweithle

Mae’r gost i economi’r DU oherwydd diffyg cynhyrchiant o ganlyniad i yfed alcohol dros £7 biliwn y flwyddyn, a chaiff tua 167,000 o flynyddoedd gwaith eu colli oherwydd alcohol bob blwyddyn.  Efallai y bydd pobl yn mynd i’r gwaith gyda phen mawr neu dan ddylanwad alcohol ers y noson flaenorol, yn yfed alcohol cyn mynd i’r gwaith neu yn ystod y dydd; neu gall problemau iechyd yn sgil yfed alcohol effeithio ar eu gwaith. Dyma rai enghreifftiau:

  • Dywedodd 40% o gyflogwyr mai alcohol yw un o brif achosion cynhyrchiant isel
  • Yfed alcohol yw achos rhwng 3% a 5% o’r holl absenoldebau o’r gwaith
  • Dywedodd 35% o bobl eu bod wedi sylwi ar gydweithwyr dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol yn y gwaith
  • Dywedodd 25% fod cyffuriau neu alcohol wedi effeithio arnynt yn y gwaith, gyda 23% yn dweud eu bod wedi gweld llai o gynhyrchiant o ganlyniad i hynny

CYF: Alcohol Change UK 2018

 

Rheoli Alcohol yn y Gweithle

Gall rhoi trefniadau cadarn ar waith i reoli alcohol yn y gweithle wella perfformiad y busnes yn sylweddol a chreu diwylliant cryf a chefnogol er mwyn sicrhau iechyd a lles y staff.  Gall adolygu eich dulliau rhagweithiol ac ymatebol ar reoli alcohol yn y gwaith helpu i greu amrywiaeth o fanteision yn y gweithle.

Arfer Da i Reoli Alcohol yn y Gweithle
  1. Llunio polisi ynglŷn ag alcohol – dyma'r man cychwyn i chi. Drwy ddatblygu neu adolygu'ch polisi ynglŷn ag alcohol gallwch roi cyfrifoldebau a chanllawiau clir i bawb eu dilyn, ac egluro'r hyn sy'n ymddygiad priodol a'r hyn nad yw'n briodol. Dylid datblygu hyn mewn ymgynghoriad â chyflogeion, yr undebau ac Adnoddau Dynol. 
  2. Trefnwch ychydig o hyfforddiant i gyflogeion a rheolwyr – dylai cyflogeion wybod beth yw polisi'r cwmni a gallu dehongli'r rheolau a sut mae'n gymwys iddynt. Gallwch wneud hyn drwy drefnu ymgyrch yn y gweithle ar alcohol drwy ddefnyddio pecyn cymorth Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol. Dylai rheolwyr gael hyfforddiant penodol ynglŷn â sut i weithredu'r polisi, gan gynnwys beth i'w wneud os ydynt yn amau bod rhywun o dan ddylanwad alcohol yn y gwaith.
  3. Nodi rhai hyrwyddwyr iechyd - mae'n beth da cael hyrwyddwyr nad ydynt yn rheolwyr i gynnig llwybr amgen at wybodaeth a chymorth i gyflogeion.
  4. Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd sy'n ymwneud ag alcohol - hyrwyddo negeseuon synhwyrol ynglŷn ag alcohol drwy gymryd rhan mewn ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn:
Gwasanaethau Cymorth
  • Barod gweithio ar draws De a Gorllewin Cymru i gefnogi unigolion y mae alcohol a chyffuriau yn effeithio arnynt, a'u ffrindiau a'u teulu
  • Kaleidoscope Mae gwasanaethau'n cefnogi pobl a theuluoedd y mae defnyddio sylweddau yn effeithio arnynt
  • WCADA Asiantaeth driniaeth yw Western Bay sy'n darparu gwasanaethau i oedolion, pobl ifanc a theuluoedd, a phobl yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Mae MEPMIS yn darparu modiwl hyfforddi e-ddysgu cyffuriau ac alcohol am ddim y gall unigolion a chyflogwyr ei ddefnyddio. 
  • Mae Dan 24/7 yn darparu llinell gymorth ddwyieithog am ddim sy’n darparu un man cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol. 
  • Mentora Cymheiriaid y Gwasanaeth Di-waith: Cymorth cyflogaeth arbenigol i bobl sy’n gwella o salwch meddwl, camddefnyddio sylweddau a/neu alcohol.
Arweiniad a gwybodaeth bellach