Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau Iach

Mae pwysau gormodol a gordewdra yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru ac, ar yr un pryd, mae ein gallu cyfunol i gydnabod beth yw pwysau iach yn lleihau.

Mae hwn yn bryder sylweddol o ran iechyd cyhoeddus, gan y gall cario pwysau gormodol gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn.

Faint o bobl sy'n ordew yng Nghymru?

Mae'r gyfran o blant ac oedolion yng Nghymru sydd â phwysau iach yn gostwng:

Rhwng 2003 a 2015, gwelwyd cynnydd o 4% mewn lefelau gordewdra ymhlith oedolion, a gostyngiad o 3.6% ymhlith y rheini â phwysau iach.

Mae tua 60% o oedolion (16+) dros bwysau neu'n ordew - gyda chwarter o'r rheini yn cael eu hystyried yn ordew.

Mae llawer o'n hymddygiadau eisteddog yn dechrau yn ystod plentyndod. Er enghraifft, mae llawer o blant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn mynd i'r ysgol mewn car, gan osod patrymau ymddygiad sy'n cael eu hailadrodd drwy gydol eu bywydau

Beth sy'n gweithio o ran mynd i'r afael â gordewdra?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau tystiolaeth er mwyn ategu strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru:

Mae gan Cymru gyd-destun polisi cefnogol iawn, gan gynnwys:

Llywodraeth Cymru: Pwysau Iach Cymru Iach

Mae Pwysau Iach: Cymru Iach yn cyflwyno ein cynlluniau uchelgeisiol, dros gyfnod o ddeng mlynedd, i drawsnewid sut rydym yn gwneud penderfyniadau yn ein bywydau bob dydd sy’n effeithio ar ein pwysau a’n llesiant. Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar ein pedair thema: Amgylcheddau Iach, Lleoliadau Iach, Pobl Iach ac Arweinyddiaeth a Galluogi Newid.

Bydd gan y strategaeth 5 cynllun cyflawni mewn cylchoedd 2 flynedd. Achosodd pandemig COVID-19 i ni oedi gwaith ar gynllun cyflawni 2020 i 2022. Rydym wedi ailffocysu gwaith cyflenwi’r strategaeth gyda chynllun cyflawni diwygiedig yng ngoleuni'r pandemig.

Bwyta’n Iach am Lai

Cyngor craff i helpu i ostwng eich bil bwyd a mwynhau diet iach a chytbwys.