Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau eraill

A yw sgrinio 100% yn gywir?
Efallai y bydd o gymorth i chi wybod bod cyfranogwyr hefyd yn cael eu hatgoffa nad oes prawf sgrinio 100% yn effeithiol a bod problemau ' n gallu codi rhwng profion sgrinio.
Mae'n bwysig felly bod ymwybyddiaeth o ' r symptomau hyn:

  • Gwaedu o ' ch gwaelod a/neu waed yn eich carthion.
  • Newid cyson ac anesboniadwy yn arfer y coluddyn.
  • Colli pwysau anesboniadwy.
  • Blinder eithafol heb unrhyw reswm amlwg.
  • Poen neu lwmp yn eich bol.

Gall cyflyrau eraill achosi ' r symptomau hyn, gan gynnwys canser y coluddyn.

Pam eich bod wedi anfon y pecyn hwn ataf? O ble y cafodd fy manylion eu derbyn?
Rhaglen sgrinio genedlaethol y GIG yw hon, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, ac o ' r herwydd, mae ' n ofynnol i ni sicrhau bod pob unigolyn cymwys yn cael cynnig y cyfle i gymryd rhan. Rydym yn cael manylion pob unigolyn cymwys o system ddemograffig Cymru, cronfa ddata genedlaethol o feddygon teulu y GIG sy ' n cynnwys manylion enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni a meddygon teulu holl drigolion Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i anfon gwahoddiadau sgrinio at bob person cymwys a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan os ydynt yn dymuno. Defnyddir yr un dull i wahodd pobl ar gyfer pob rhaglen sgrinio ac imiwneiddio genedlaethol arall.
 
Pa wybodaeth feddygol sydd ar gael i chi?
Mae mynediad at wybodaeth o system ddemograffig Cymru yn cael ei reoli ' n llym iawn ac mae ' n cydymffurfio ' n llawn â ' r Ddeddf Diogelu data. Rydym wedi cael cymeradwyaeth lawn gan gyrff lleol a chenedlaethol priodol y GIG i ddefnyddio ' r data hwn yn y ffordd a ddisgrifir. Ni ddelir unrhyw fanylion meddygol ar system ddemograffig Cymru ac nid oes unrhyw gofnodion meddygol ar gael i sgrinio ' r coluddyn.
 
Yr wyf yn feddyg teulu sut y gallwn gael prawf sgrinio ' r coluddyn ar gyfer ein cleifion?
Gall staff mewn meddygfeydd, sefydliadau gofal tymor hir neu garchardai neu ganolfannau lluoedd ei Mawrhydi ofyn am becyn prawf newydd drwy fynd i ' n gwefan www.bowelscreening.wales.nhs.uk
 
Ni ddisgwylir i ' r prawf sgrinio gael ei ddefnyddio i ymchwilio i symptomau. Mae canllawiau cyfeirio ar gyfer canser tybiedig wedi ' i gyhoeddi ar wefan rhwydwaith canser Cymru o dan ganser y gastroberfeddol is. Ni allwch gyfeirio rhywun at sgrinio ' r coluddyn – caiff y cyhoedd eu gwahodd os ydynt ar system ddemograffig Cymru gan Sgrinio Coluddion Cymru.
 
Rwyf wedi cael post sgrinio coluddion ar gyfer rhywun nad yw ' n byw fel y cyfeiriad hwn-beth ddylwn I ei wneud gyda ' r post?

Dychwelwch y post a gawsoch wedi ' i farcio "ddim yn y cyfeiriad hwn " fel y gallwn ddiweddaru.#

Beth alla i ei wneud i helpu i atal canser y coluddyn?

  • Cymryd rhan yn rhaglen sgrinio ' r coluddyn bob dwy flynedd.
  • Symud mwy
    • Mae bod yn egnïol yn eich helpu i deimlo ' n well a lleihau eich risg o ddatblygu salwch difrifol.
    • Anelwch at fod yn egnïol am o leiaf 21/2 awr yr wythnos.
  • Yfed llai
    • Gall yfed alcohol hefyd gynyddu eich risg o gael clefyd y galon, canser a niwed i ' r afu/iau.
    • Os ydych am gadw ' r risgiau ' n isel, yfwch ddim mwy na 14 uned yr wythnos.
    • Os ydych am dorri i lawr, cael sawl diwrnod di-ddiod yr wythnos.
  • Bwyta ' n dda
    • Gall bwyta ffrwythau a llysiau helpu i leihau eich risg o ddatblygu clefydau difrifol fel canser a chlefyd y galon.
    • Ceisiwch fwyta o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.
  • Peidiwch â smygu
    • Bydd rhoi ' r gorau i smygu yn gwella eich iechyd.