Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Sgrinio

Am beth y mae'r pecyn prawf sgrinio yn chwilio?

  • Mae'r pecyn prawf sgrinio'n chiwlio am waed yn eich carthion (pw).
  • Gall gwaed mewn carthion fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau eraill fel polypiaid (tyfiannau bach).
  • Gan amlaf mae polypiaid yn ddiniwed ond gall rhai arwain at ganser y coluddyn. Mae'n hawdd tynnu'r rhan fwyaf o bolybiaid.
  • Weithiau daw'r gwaed am fod y polyp wedi gwaedu.
  • Gall fod rhesymau eraill dros y gwaed, fel haemorodiau (peils) neu rwygiadau bach yn y coluddyn.
  • Nid yw'r pecyn prawf yn dweud wrthych a oes canser y coluddyn arnoch. Bydd y canlyniadau'n dweud a oes angen rhagor o brofion fel colonosgopi (rhoi camera i fyny'ch pen ol).

Beth y dylech ei wybod

  • Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y prawf sgrinio.
  • Nid yw sgrinio'r coluddyn bob amser yn hollol gywir.
  • Wrth sgrinio, efallai na wellir canser a does dim gwella ar rai mathau o ganser.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Byddwn yn postio'ch canlyniadau o fewn pythefnos.
  • Bydd canlyniadau y rhan fwyaf o bobl ddim yn angen rhagor o brofion.
  • Os gwelwn waed yn eich sampl, cewch eich cyfeirio am asesiad gyda nyrs sgrinio.
  • Byddwn yn cynnig rhagor o brofion a gall gynnwys colonosgopi.