Mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi colli anwyliaid a phawb yr effeithir arnynt gan yr achosion o hantafeirws sy'n gysylltiedig â'r llong fordaith MV Hondius. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), byrddau iechyd Cymru ac awdurdodau lleol i ymateb i'r achosion ac i gymryd camau priodol.
Rydym yn cefnogi nifer fach o drigolion Cymru sy'n gysylltiedig â'r achosion o hantafeirws.
Bydd yr unigolion yn derbyn profion rhagofalus rheolaidd ac asesiadau iechyd cyhoeddus dyddiol am gyfnod eu hunan-ynysu.
Tra bod hantafeirws yn haint difrifol, nid yw'n cael ei ledaenu trwy gyswllt cymdeithasol bob dydd fel mynd i fannau cyhoeddus, siopau, gweithleoedd, neu ysgolion. Yn yr achosion prin lle mae rhywun wedi dal yr haint gan rywun arall, maent wedi cael cyswllt agos a hir â'r unigolyn sydd wedi'i heintio â hantafeirws.
Mae’r holl drigolion o Gymru yn iach ac nid ydynt yn dangos symptomau. Os oes unrhyw un ohonynt yn dangos symptomau hantafeirws mae trefniadau cadarn ar waith i sicrhau eu bod yn cael sylw meddygol brys. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion hysbys o hantafeirws yng Nghymru ac mae'r risg i'r cyhoedd yn isel iawn.
Mae'r diweddariadau diweddaraf ar gael ar wefan UKHSA (gwefan allanol, Saesneg yn unig), sydd hefyd wedi cyhoeddi blog gyda gwybodaeth ychwanegol (gwefan allanol, Saesneg yn unig).