Neidio i'r prif gynnwy

Beth allaf i ei wneud i leihau'r risg o gael ganser y coluddyn

Cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.
 
Symud o gwmpas fwy

  • Mae ymarfer corff yn eich helpu i deimlo'n well a gall eich gwneud yn llai tebygol o gael clefyd difrifol.
  • Ceisiwch wneud rhywbeth egniol am o leiaf 2.5 awr yr wythnos.

Yfed llai o alcohol

  • Gall yfed alcohol gynyddu'r risg o gael clefyd y galon, canser a difrod i'r iau/afu.
  • Er mwyn cadw'r risg yn isel, peidiwch ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos.
  • Os ydych am yfed llai, ceisiwch gael sawl diwrnod di-ddiod mewn wythnos.

Bwyta'n iach

  • Gall bwyta ffrwythau a llysiau helpu i leihau'r perygl o gael afiechydon difrifol fel canser a chlefyd y galon.
  • Ceisiwch fwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.

Peidiwch a smygu

  • Bydd stopio smygu yn gwella'ch iechyd.

Pa symptomau ddylwn i wybod amdanynt?

  • Gwaedu o'ch pen ol a/neu waed yn eich carthion.
  • Newid parhaus, heb esboniad, yn eich arferion ty bach.
  • Colli pwysau heb esboniad.
  • Blinder mawr heb reswm amlwg.
  • Poen neu lwmpyn yn eich bol.