Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol

Beth yw sgrinio YAA?

Mae sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA) yn chwilio am chwydd (ymlediad) o'r aorta yn yr abdomen.

Nod y rhaglen yw lleihau nifer yr achosion o YAA sy’n rhwygo a marwolaethau yng Nghymru.

Gwahoddir dynion 65 oed, y mae'r gofrestr yn dangos eu bod yn byw yn Nghymru, i gael prawf sgrinio.

Gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio gan y GIG o'r blaen na chael diagnosis o ymlediad aortig abdomenol ofyn am sgan drwy gysylltu â'u swyddfa sgrinio leol
 

Ynglŷn ag Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA)

Diagram o aorta lle mae ymlediad

Beth yw aorta?

Yr aorta yw'r brif bibell waed sy'n cyflenwi gwaed i'r corff.
 

Beth yw ymlediad?

Weithiau gall wal yr aorta yn yr abdomen (y bol) fynd yn wan ac ymestyn i ffurfio ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd mae risg y gall yr aorta hollti neu dorri (rhwygo).

Gall YAA sydd wedi torri arwain at golled gwaed ddifrifol a fydd angen triniaeth frys ar unwaith.

Ni fydd pob YAA yn torri, ond os bydd yn gwneud hynny mae'r tebygolrwydd o gyrraedd yr ysbyty a goroesi llawdriniaeth yn isel iawn.
 

Pam mae cymryd rhan mewn prawf sgrinio YAA yn bwysig?

Fel arfer nid oes unrhyw arwyddion na symptomau os oes gennych YAA. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi'n teimlo unrhyw boen neu'n sylwi ar unrhyw beth gwahanol.

Y ffordd hawsaf o ddarganfod a oes gennych YAA yw trwy gael sgan uwchsain untro o'ch abdomen.

Os canfyddir YAA, byddwch yn cael cynnig monitro neu driniaeth.

Gall YAA ddigwydd i unrhyw un ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith dynion 65 oed a hŷn. Rydych chi’n wynebu risg uwch os:

  • Ydych chi’n ysmygu.
  • Oes gennych chi bwysedd gwaed uchel.
  • Oes gennych chi golesterol uchel.
  • Oes gennych chi hanes teuluol o YAA.

 

Pa mor gywir yw sgrinio YAA?

Y ffordd orau o ddod o hyd i YAA yw trwy gael sgan uwchsain.

Nid yw prawf sgrinio YAA 100% yn gywir.

Weithiau mae'n anodd gweld aorta'r abdomen. Nid yw hyn yn golygu bod gennych ymlediad, ond efallai bydd angen i chi gael rhagor o sganiau uwchsain.