Neidio i'r prif gynnwy

Eich gwahoddiad

Pwy gaiff ei sgrinio?

Gwahoddir dynion 65 oed, y mae'r gofrestr yn dangos eu bod yn byw yn Nghymru, i gael prawf sgrinio.

Gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio gan y GIG o’r blaen na chael diagnosis o ymlediad aortig abdomenol (YAA) ofyn am sgan drwy gysylltu â'u swyddfa sgrinio leol. 

Mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol o gael YAA na merched ac mae YAA yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth fynd yn hŷn.

Mae YAA wedi rhwygo yn llai cyffredin mewn merched na dynion ac, ar gyfartaledd, mae’n digwydd ddeng mlynedd yn ddiweddarach nag mewn dynion.

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn cynghori’r GIG a’r Llywodraeth ar raglenni sgrinio cenedlaethol. Nid ydynt yn argymell cynnig sgrinio YAA i ferched.

Gall unrhyw un sy’n gwybod bod ganddo hanes teuluol agos o YAA ac nad yw'n cael ei wahodd i sgrinio (er enghraifft, dynion nad ydynt eto’n 65 oed neu fenywod o unrhyw oedran) siarad â'i feddyg.

Mae’n bosibl y bydd angen i bobl sy’n drawsryweddol neu’n anneuaidd gael prawf sgrinio YAA.  I gael gwybod mwy, ewch i'n tudalennau gwybodaeth i bobl sy'n drawsryweddol ac anneuaidd.

 

Sut y caf wahoddiad?

Anfonir y canlynol at ddynion 65 oed:

  • Llythyr apwyntiad sy’n rhoi'r dyddiad a'r amser.
  • Map o leoliad y clinig.
  • Taflen wybodaeth a fydd yn esbonio mwy am sgrinio YAA a'r prawf uwchsain.

Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall yr wybodaeth cyn i chi ddod i'ch apwyntiad.

Yn eich apwyntiad, bydd angen i chi roi caniatâd i ni eich sgrinio.

Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad tua thair wythnos cyn eich apwyntiad.

Cysylltwch â ni os:

  • Nad ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg.
  • Ydych yn meddwl eich bod wedi cael gwahoddiad yn anghywir.
  • Ydych wedi cael gwahoddiad i gael eich sgrinio ond rydych yn cael eich trin neu eich monitro ar gyfer YAA.
  • Nad ydych wedi'ch cofrestru fel gwryw gyda'ch meddyg ond rydych yn ystyried eich hun yn wryw.
  • Oes gennych unrhyw gwestiynau am gymryd rhan mewn sgrinio.
     

Beth os bydd angen help arnaf i ddeall yr wybodaeth?

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon, cysylltwch â ni. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol.

I gael rhagor o wybodaeth, efallai yr hoffech ymweld â’n tudalennau Hawdd eu Deall, Iaith Arwyddion Prydain, Sain a Fideo.
 

Mynd am fy apwyntiad

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad os:

  • Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
  • Oes gennych anabledd.
  • Ydych yn defnyddio ci cymorth.
  • Oes angen i rywun ddod gyda chi.
  • Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
  • Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w apwyntiad.

 

Teithio i fy apwyntiad

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am help i deithio i’ch apwyntiad, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Gallen nhw fod o gymorth i chi.

 

Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd

Gan fod costau byw uwch yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.

Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio arferol yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am brofion pellach yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG yn rhoi canllawiau clir i bobl ynghylch pryd y gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. I'r rhai sy'n gymwys, mae'r cynllun yn cefnogi'r gost o deithio i'r ysbyty neu eiddo arall y GIG ar gyfer triniaeth a ariennir gan y GIG neu brofion diagnostig.

I weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIGam ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Ewch i’n tudalennau gwe costau byw i gael rhagor o wybodaeth  icc.gig.cymry/costau-byw