Neidio i'r cynnwys

Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA)

Gwybodaeth:

Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ffonio oedolion sydd heb ddod i’w gwahoddiad sgrinio cyntaf. Pwrpas hyn yw helpu i aildrefnu profion sgrinio ar gyfer yr unigolion hynny sy’n dymuno derbyn y cynnig o brawf sgrinio yn ogystal â deall yn well y rhesymau pam nad yw pobl yn manteisio ar y cynnig. Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, ynghyd â’n gwerthusiad o effaith y gwaith hwn, yn helpu i lywio sut rydym yn datblygu ein gwasanaethau sgrinio yn y dyfodol. Gall pobl sy’n derbyn galwad ffôn o 0303 003 0145 ac sy’n dymuno gwirio bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â nhw neu a hoffai gael cymorth i drefnu prawf sgrinio, ffonio Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0510.

Beth yw sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA)?

Mae sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA) yn chwilio am chwydd (ymlediad) o’r aorta yn yr abdomen.

Nod y rhaglen yw lleihau nifer yr achosion o YAA sy’n rhwygo a marwolaethau yng Nghymru.

Gwahoddir dynion 65 oed, y mae’r gofrestr yn dangos eu bod yn byw yn Nghymru, i gael prawf sgrinio.

Gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio gan y GIG o’r blaen na chael diagnosis o ymlediad aortig abdomenol ofyn am sgan drwy gysylltu â’u swyddfa sgrinio leol.

Dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio. Mae’r wybodaeth yn yr adrannau canlynol yn egluro’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cymryd rhan mewn sgrinio YAA.

  1. Rhesymau dros fynd i YAA
  2. Eich gwahoddiad YAA
  3. Eich gwahoddiad YAA
  4. Ynglŷn â’r prawf YAA
  5. Eich canlyniadau YAA
  6. Arwyddion a symptomau o YAA

Ynglŷn ag Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA)

Yr aorta yw’r brif bibell waed sy’n cyflenwi gwaed i’r corff.

Weithiau gall wal yr aorta yn yr abdomen (y bol) fynd yn wan ac ymestyn i ffurfio ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd mae risg y gall yr aorta hollti neu dorri (rhwygo).

Gall YAA sydd wedi torri arwain at golled gwaed ddifrifol a fydd angen triniaeth frys ar unwaith.

Ni fydd pob YAA yn torri, ond os bydd yn gwneud hynny mae’r tebygolrwydd o gyrraedd yr ysbyty a goroesi llawdriniaeth yn isel iawn.

Darlun o gorff dynol yn amlygu'r rhan o'r bol, gyda saeth yn pwyntio at yr aorta sy'n dangos chwydd, gan nodi ymlediadau aortig abdomenol (YAA).

Pam mae cymryd rhan mewn prawf sgrinio YAA yn bwysig?

Fel arfer nid oes unrhyw arwyddion na symptomau os oes gennych YAA. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi’n teimlo unrhyw boen neu’n sylwi ar unrhyw beth gwahanol.

Y ffordd hawsaf o ddarganfod a oes gennych YAA yw trwy gael sgan uwchsain untro o’ch abdomen.

Os canfyddir YAA, byddwch yn cael cynnig monitro neu driniaeth.

Gall YAA ddigwydd i unrhyw un ond mae’n fwyaf cyffredin ymhlith dynion 65 oed a hŷn. Rydych chi’n wynebu risg uwch os:

  • Ydych chi’n ysmygu.
  • Oes gennych chi bwysedd gwaed uchel.
  • Oes gennych chi golesterol uchel.
  • Oes gennych chi hanes teuluol o YAA.

Pa mor gywir yw sgrinio YAA?

Y ffordd orau o ddod o hyd i YAA yw trwy gael sgan uwchsain.

Nid yw prawf sgrinio YAA 100% yn gywir.

Weithiau mae’n anodd gweld aorta’r abdomen. Nid yw hyn yn golygu bod gennych ymlediad, ond efallai bydd angen i chi gael rhagor o sganiau uwchsain.

Data

Data am gwmpas sgrinio ymlediadau aortig abdomenol (YAA) a’r nifer sy’n cael eu sgrinio