Adborth sgrinio ymlediadau aortig abdomenol
Mae rhannu eich barn am y gwasanaeth a ddarparwn yn bwysig. Mae’n ein helpu i wella’r ffordd yr ydym yn darparu sgrinio Ymlediadau Aortig yn yr Abdomen (YAA) yng Nghymru.
Rhannwch eich meddyliau
Gallwch ddweud wrthym beth yw eich barn am y gwasanaeth a ddarparwn yma:
Rwyf wedi mynd i fy apwyntiad sgrinio YAA
Cwblhewch yr arolwg hwn os ydych chi wedi mynd i’ch apwyntiad sgrinio YAA.
Mae angen cymorth arnaf i adael fy adborth
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol os oes angen cymorth arnoch i adael eich adborth. Gallwch wneud hyn dros y ffôn, drwy e-bost neu’n ysgrifenedig.