Defnyddir sgan uwchsain i sganio'r abdomen i chwilio am YAA. Mae'r sgan yn gyflym ac fel arfer yn ddi-boen, ond fe allai fod ychydig yn anghyfforddus.
Bydd y sgriniwr yn esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod y sgan.
Ni fydd angen i chi ddadwisgo. Bydd y sgriniwr yn gofyn i chi orwedd ar eich cefn a chodi eich top fel y gall weld eich abdomen (bol). Os ydych yn gwisgo rhwymwr, ni fydd angen i chi ei dynnu ymaith.
Bydd y sgriniwr yn rhoi rhywfaint o gel clir ar eich abdomen ac yn pasio chwiliedydd uwchsain dros eich abdomen.
Er mwyn i'r sgriniwr allu cael delwedd glir o'r aorta abdomenol, efallai y bydd angen iddo roi rhywfaint o bwysau wrth ddefnyddio'r chwiliedydd.
Bydd delwedd o'r aorta yn cael ei harddangos ar fonitor. Bydd y sgriniwr yn mesur maint yr aorta ar y monitor i weld a oes YAA yn bresennol.