Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch eich hun

Arwyddion a Symptomau

Fel arfer nid oes unrhyw arwyddion na symptomau os oes gennych YAA.  Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi'n teimlo unrhyw boen neu'n sylwi ar unrhyw beth gwahanol.

Gall YAA ddigwydd i unrhyw un ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith dynion 65 oed a hŷn. 

Rydych chi’n wynebu risg uwch os:

  • Ydych chi’n ysmygu.
  • Oes gennych chi bwysau gwaed uchel.
  • Oes gennych chi golesterol uchel.
  • Oes gennych chi hanes teuluol o YAA.

Pethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach:

  • Ewch am sgrinio YAA pan fyddwch yn cael eich gwahodd.
  • Cymerwch eich meddyginiaeth fel y'i rhagnodir.
  • Ewch i unrhyw sganiau monitro.
  • Siaradwch â'ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch iechyd.

Ewch i’n tudalennau Cadw’n Iach i ddysgu rhagor am yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n iach.