Neidio i'r prif gynnwy

Eich apwyntiad

Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?

Cynhelir sgrinio YAA mewn clinigau cymunedol a lleoliadau eraill.  Anfonir llythyr apwyntiad a map atoch, a fydd yn dweud wrthych ble y cewch eich sgrinio.

 

Newid fy apwyntiad

Mae apwyntiadau sgrinio YAA yn brin.  Cysylltwch â ni os:

  • Na allwch ddod i’ch apwyntiad, oherwydd efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad a lleoliad mwy addas i chi.
  • Nad ydych yn bwriadu dod; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
  • Oes gennych anabledd neu os oes arnoch angen cymorth, oherwydd gallwch ofyn am apwyntiad hirach.
  • Ydych wedi methu eich apwyntiad sgrinio YAA fel y gallwn drefnu apwyntiad newydd.

 

Paratoi ar gyfer fy apwyntiad

Cyn eich apwyntiad:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall yr wybodaeth a anfonwyd atoch.
  • Cysylltwch â ni os bydd arnoch angen cymorth yn eich apwyntiad. 
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod ymhle mae eich apwyntiad.
  • Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, dylech ganiatáu digon o amser i deithio.
  • Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio.
  • Dylech ganiatáu o leiaf 30 munud ar gyfer eich apwyntiad.

 

Cyrraedd eich apwyntiad

Gofynnwn i chi ddod i'ch apwyntiad yn brydlon ac ar eich pen eich hun os oes modd.  

Os bydd arnoch angen cymorth yn ystod eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn dod.