Neidio i'r prif gynnwy

Rhannu eich gwybodaeth

Rydym yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i'r rhai y mae angen iddynt wybod er mwyn darparu'r gofal gorau i chi. Os ydym yn sgrinio chi/eich babi ac yn canfod bod angen rhagor o brofion neu driniaeth, mae angen i ni rannu'r wybodaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a'ch meddyg teulu.
Rydym hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru os bydd canser yn cael ei ganfod o ganlyniad i sgrinio, ac i Gofrestr Anomaleddau Cynhenid Cymru os bydd eich babi'n cael diagnosis o golli clyw, neu un o'r cyflyrau y sgrinnir amdanynt yn y prawf pigo sawdl babanod newydd-anedig. Mae'r cofrestrau clefydau hyn yn rhoi gwybodaeth am batrwm y cyflyrau yng Nghymru. Mae'n ein galluogi i gynllunio gwasanaethau a chanfod ‘clystyrau’ o glefydau y gellir eu hatal.
Mae gan y sefydliadau/unigolion yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth â hwy yr un ddyletswydd cyfrinachedd â'r Adran Sgrinio, ac nid ydynt byth yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n galluogi i chi gael eich adnabod.
 
Mae'r datganiad preifatrwydd yn cynnwys cyfeiriad at gontractwyr trydydd parti. Enghraifft o hyn ym maes Sgrinio yw lle mae rhai o'n llythyrau'n cael eu hanfon o gwmni allanol ar ein rhan.