Mae iechyd cyhoeddus amgylcheddol yn ymwneud ag adnabod, asesu a rheoli risgiau’n gysylltiedig â pheryglon amgylcheddol sy’n gallu effeithio ar iechyd. Mae dod i gysylltiad â pheryglon amgylcheddol ledled Cymru’n parhau i beri risgiau iechyd i unigolion a chymunedau fel ei gilydd. Mae peryglon i’w cael ar sawl ffurf a gallant ddigwydd yn naturiol neu fod o ganlyniad i weithgareddau pobl.