Neidio i'r prif gynnwy

Tywydd poeth

Mae cyfnodau hir o dywydd poeth eithafol yn golygu peryglon iechyd difrifol. Gall amlygiad gormodol i dymheredd uchel ladd. 

Mae’r rheiny sydd yn y perygl mwyaf yn cynnwys pobl hŷn, plant ifanc iawn a phobl sydd â chyflyrau meddygol sy’n bod yn barod.

Mae afiechydon sy'n gysylltiedig â gwres cynnwys crampiau gwres, brech, oedema, gorludded a trawiad gwres. Gall camau effeithiol, o’u cymryd yn gynnar, leihau risgiau i iechyd a’u heffeithiau. 

Gall ein Gwasanaeth Iechyd Amgylcheddol nodi a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â pheryglon amgylcheddol a allai cael effaith andwyol ar iechyd yr uniogolyn a iechyd cyhoeddus, fel tywydd eithafol.

Cyngor Tywydd Poeth

Cyngor tywydd poeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol 

Atgoffir cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu cynlluniau uwchgyfeirio perthnasol a chymryd camau gweithredu parhad busnes priodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n gallu ymdopi cystal â phosibl ag unrhyw alw cynyddol cysylltiedig.

Cyngor tywydd poeth i ofalwyr plant

Mae derbynnedd plant i dymheredd uchel yn amrywio; gallai’r rheiny sy’n ordrwm neu sy’n cymryd meddyginiaeth fod â mwy o risg o effeithiau niweidiol. Mae plant dan bedair oer hefyd mewn mwy o berygl. Gallai rhai plant sydd ag anableddau neu anghenion iechyd cymhleth fod yn fwy tueddol o ddioddef oherwydd eithafion tymheredd.

Mae’n bosib y gall y nyrs ysgol, ymarferwyr iechyd cymunedol, ymwelydd iechyd teuluol neu weithiwr iechyd arbenigol y plentyn roi cyngor ar anghenion penodol y plentyn.

Lawrlwythiadau

Tywydd Poeth - Cyngor i geithwyr proffesiynnol

Tywydd Poeth - Cyngor i ofalwyr plant

Tywydd Poeth - Cyngor i'r cyhoedd

Tywydd Poeth Eithafol - Cyngor i trefnwyr digwyddiadau