Neidio i'r prif gynnwy

Asbestos

Asbestos yw’r enw a roddir i nifer o fwynau ffibrog naturiol. Mae dau brif fath: serpentin (crysotil neu asbestos gwyn) ac amffibol, (gan gynnwys asbestos amosit/brown). Mae mwynau asbestos yn gryf ac yn gallu gwrthsefyll gwres a chemegau felly fe’u hystyriwyd unwaith yn ddeunyddiau adeiladu delfrydol ar gyfer pethau fel byrddau inswleiddio, boeleri, pibellau a thoeon dalennau. Mae deunyddiau sy'n cynnwys asbestos mewn llawer o leoedd o hyd ond maent bellach wedi'u gwahardd mewn deunyddiau adeiladu newydd.

Mwy o Wybodaeth

Mae gan wefan Public Health England fwy o wybodaeth a chanllawiau am effaith bosibl dod i gysylltiad ag asbestos o ran iechyd. Mae rhagor o wybodaeth am asbestos hefyd ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.