Neidio i'r prif gynnwy

Effeithiau Sŵn Tyrbinau Gwynt ar Iechyd

Adolygiad o sŵn tyrbinau gwynt


Ym mis Medi 2013, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad o’r sŵn sy'n deillio o dyrbinau gwynt a’i effaith ar iechyd. 
 
Dyma’r prif ganfyddiadau:

  • Er y nodwyd y gallai fod yn ddiflas, ni lwyddwyd i sefydlu perthynas uniongyrchol rhwng sŵn tyrbinau ac iechyd.
  • Mae sŵn cefndir yn dylanwadu'n fawr ar effaith yr hyn a glywir yn sgil tyrbinau. Mae tyrbinau wedi'u dylunio'n dda, yn gymharol dawel o'u cymharu â'r rhan fwyaf o sŵn traffig ffyrdd.
  • Gall negeseuon sy'n cael eu cyfathrebu am effaith tyrbinau ar iechyd ddylanwadu ar ddealltwriaeth a chanfyddiad y cyhoedd. Dylai gwybodaeth felly fod yn briodol, yn gymesur ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael. 
  • Dywedodd rhai pobl sy'n byw ger tyrbinau eu bod yn methu cysgu ac yn teimlo dan straen. Gellir cysylltu straen, tensiwn a thymer flin â'r ffaith bod sŵn i'w glywed, yn hytrach na’r sŵn ei hun. 
  • Gall anfodlonrwydd gweledol gyda thyrbinau ddylanwadu ar ganfyddiad pobl o sŵn. 

Datganiad Sefyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru


Rydym wedi adolygu'r dystiolaeth o sŵn a gynhyrchir gan dyrbinau gwynt ac iechyd.

Ni wnaeth yr adolygiad hwn nodi unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod sŵn tyrbinau gwynt yn cael effaith ffisiolegol uniongyrchol ar iechyd. 

Mae nodweddion sŵn a gynhyrchir gan dyrbinau yn amrywio, gyda modyliad osgled a sŵn amledd isel yn agweddau allweddol ar gwynion cysylltiedig.
 
Efallai y bydd canfyddiad o’r effeithiau andwyol ar iechyd sy'n gysylltiedig â thyrbinau gwynt yn cael ei ddylanwadu yn ôl sut mae tyrbinau'n edrych, pryder ynghylch eu heffaith ar amgylcheddau lleol a ffactorau personol ac economaidd.
 
Rydym yn cydnabod y gall anfodlonrwydd â thyrbinau gwynt gweithredol achosi straen a phryder a all, yn ei dro, effeithio ar ansawdd bywyd.
 
Dylid nodi y gall sŵn effeithio ar bobl a chymunedau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol.
 
Daeth y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a adolygwyd o astudiaethau a gynhaliwyd y tu allan i'r DU.
 
Roedd y dystiolaeth yn pwyntio'n gryf at effaith weledol tyrbinau fel ffactor addasu o ran anfodlonrwydd. Mae'r cysyniad o ‘anfodlonrwydd’ yn gymhleth, yn oddrychol ac yn anodd ei fesur yn ddiduedd.
 
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol (fel rheoleiddwyr sŵn a gynhyrchir gan dyrbinau) ac eraill, gan gynnwys y cyhoedd, er mwyn deall a, lle bo hynny'n bosibl, lleihau pryderon iechyd y boblogaeth leol sy'n gysylltiedig â sŵn tyrbinau gwynt.
 
Caiff y datganiad hwn ei adolygu o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu yn y maes hwn.