Neidio i'r prif gynnwy

Algâu gwyrddlas

Nid algâu yw algâu gwyrddlas ond math o facteria (o'r enw cyanobacteria) sy'n bresennol yn ein llynnoedd a'n hafonydd ni. 
 
Maen nhw'n fach iawn ac ni ellir eu gweld gyda'r llygad noeth. Pan fydd yr amodau amgylcheddol yn gwbl addas (maen nhw’n hoffi dŵr llonydd, cynnes gyda digon o faetholion), gallant luosi’n gyflym a ffurfio “gordyfiant”. 

Mae gordyfiant yn ymddangos fel staen ar y dŵr (lliw gwyrdd pys yn aml) neu fel haenau o lysnafedd neu fatiau sy'n arnofio. Mae gordyfiant fel arfer yn digwydd yn yr haf a dechrau'r hydref ond gall ddigwydd ar adegau eraill o'r flwyddyn, os yw'r amodau'n iawn.

Nid oes ffordd gyflym neu hawdd o reoli a chael gwared ar ordyfiant ar ôl iddo ymddangos mewn llyn neu bwll.