Mae nofio gwyllt yn golygu nofio, ymdrochi, padlo neu chwarae mewn dŵr naturiol yn yr awyr agored.
Gallai hyn fod mewn afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr neu yn y môr.
Mae nofio gwyllt yn boblogaidd. Gall helpu ag iechyd a lles corfforol a meddyliol. Ond gall dŵr agored fod yn beryglus – byddwch yn ymwybodol o’r risgiau a dilynwch yr awgrymiadau hyn i fod yn fwy diogel.
*Noder, rydym wedi gorfod cynnwys dolenni i rai tudalennau gwe yn y canllaw hwn sydd ar gyfer cynulleidfa yn y DU ac, felly, nid ydynt ar gael yn Gymraeg. Ymddiheurwn am hyn.