Neidio i'r prif gynnwy

Carbon Monocsid (CO)

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael gwenwyn CO

    • Diffoddwch unrhyw gyfarpar a allai fod yn achosi'r broblem ac agorwch y ffenestri
    • Peidiwch â defnyddio cyfarpar nes ei fod wedi'i wirio gan beiriannydd sydd wedi cymhwyso'n briodol
    • Ewch i weld eich Meddyg Teulu neu i’ch Adran Achosion Brys leol

Mae carbon monocsid (CO) yn nwy di-liw, di-arogl, ac mae'n wenwynig iawn. Mae'n cael ei gynhyrchu pan fyddwn yn llosgi pren, olew, glo, nwy a siarcol ar gyfer gwresogi a choginio. Mae CO hefyd yn cael ei gynhyrchu gan gyfarpar diffygiol neu wael.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am beirianwyr sydd â chymwysterau priodol, cysylltwch â:
Nwy: Cofrestr Diogelwch Nwy - ffoniwch 0800 408 5500
Olew: OFTEC - ffoniwch 0845 658 5080
Tanwydd Solet: HETAS - ffoniwch: 0845 634 5626
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â CO cysylltwch â'r Llinell Argyfwng nwy ar 0800 111999.

Canllaw Amlygiad tybiedig i garbon monocsid (CO)


Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar garbon monocsid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a Public Health England.