Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli digwyddiadau amgylcheddol difrifol

Digwyddiad amgylcheddol yw unrhyw ddigwyddiad (difrifol fel arfer) lle mae amlygiad(au) y cyhoedd i beryglon cemegol, neu beryglon amgylcheddol eraill, yn achosi effeithiau andwyol ar iechyd, neu â’r potensial i wneud hynny. Gall digwyddiadau fod ar raddfa fach, fod yn fyrhoedlog, neu'n gymhleth ac yn hirfaith dros gyfnod o ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau yn cynnwys gollyngiadau cemegol/ymbelydredd, neu ddigwyddiadau tywydd eithafol megis llifogydd.

Rhagor o wybodaeth

Er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r agweddau gweithredol ar faterion diheintio sy’n ymwneud â rheoli digwyddiadau ac i gefnogi ein hasiantaethau partner, rydym wedi datblygu Canllawiau Diheintio Cemegol ar gyfer Byrddau Iechyd mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd.