Neidio i'r prif gynnwy

Ysgolion a meithrinfeydd

Ysgolion a Meithrynfeydd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’n hanfodol cefnogi ysgolion a meithrinfeydd er mwyn i’r Cynllun Gwên lwyddo a gwella iechyd y geg i blant yng Nghymru. Gall lleoliadau gyfranogi mewn nifer o ffyrdd:

1) Cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth

Dylai lleoliadau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru gymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd gyda chymorth llawn y tîm Cynllun Gwên hyd at flwyddyn 2 yn yr ysgol. Er mwyn darganfod a all eich ysgol neu’ch meithrinfa gymryd rhan, cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol.

Brwsio Dannedd yn y Feithrinfa a'r Ysgol

2) Cefnogi’r rhaglen Farnais Fflworid

Bydd timau’r Cynllun Gwên yn ymweld ag ysgolion a meithrinfeydd a dargedir ddwywaith y flwyddyn i gyflwyno’r rhaglen Farnais Fflworid.

3) Darparu gwersi addysg iechyd y geg i blant

Gall dysgu am iechyd y geg da o oedran cynnar fod yn fanteisiol i blant drwy gydol eu bywydau, oherwydd gellir atal afiechyd deintyddol a gall dannedd iach barhau am oes. Mae llawer o ffyrdd o ddarparu profiadau dysgu ystyrlon am iechyd y geg i annog plant i ddatblygu agweddau ac arferion da.  Dylai cynnwys a chyflwyniad y wers ystyried oedran y plant, gwybodaeth ac agweddau blaenorol, adnoddau a’r amser sydd ar gael.  Negeseuon allweddol i hybu iechyd y geg da yw:

  • Bwyta ac yfed yn iach
  • Brwsio dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid
  • Mynd i weld y deintydd yn rheolaidd

Mae’r adnodd Cyfnod Sylfaen hwn yn cyflwyno’r pwnc iechyd y geg a bwyta’n iach. Mae’n cynnwys taflenni gweithgaredd y gellir eu defnyddio mewn gwersi i gefnogi addysgu am ddannedd, sgiliau creadigol, ffurfio geiriau, a datblygu deheurwydd.

Mae’r adnodd Cyfnod Allweddol 2 hwn yn cyflwyno’r pwnc iechyd y geg a bwyta’n iach. Mae’n cynnwys cynlluniau gwersi a chyflwyniadau i athrawon, a thaflenni gweithgaredd atodol. Mae’r rhain yn cefnogi’r broses o ddysgu am iechyd a bioleg, bwyd ac ymddygiad, cynnal arbrofion gwyddonol, sgiliau creadigol a chyfleu gwybodaeth.

Gwobr y Cynllun Gwên

I gydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i’r rhaglen Cynllun Gwên, efallai y bydd eich meithrinfa neu’ch ysgol yn gymwys i gael y wobr Cynllun Gwên. Mae plac wedi cael ei ddatblygu i ddangos eich ymdrechion o ran ceisio gwella iechyd y geg pobl ifanc yng Nghymru.

Meini prawf y wobr:

  • Plac heb fathodyn – i’r rhai sy’n dechrau ar y cynllun
  • Bathodyn efydd – yr ysgolion hynny sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ers blwyddyn
  • Bathodyn arian – y rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ers 2 flynedd
  • Bathodyn aur - y rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ers 3 blynedd neu fwy

*Mae pob lefel yn tybio bod brwsio dannedd rheolaidd yn digwydd

Wrth i chi gyflawni’r cam nesaf byddwn yn rhoi’r bathodyn cyfatebol i chi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol.

Taflenni gweithgaredd

 

llun o ddraig

Dathlu'r 10fed penblwydd

Yn Medi 2019, ymunodd meithrinfeydd ac ysgolion ledled Cymru â ni i ddathlu 10 mlynedd o'r Cynllun Gwên.  Roeddem wrth ein bodd o weld yr holl weithgareddau, partion a gwersi yn cael eu cynnal.  Diolch enfawr i'r holl feithrinfeydd ac ysgolion a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth genedlaethol o wneud cardiau 10fed penblwydd i Dewi, ein masgot Cynllun Gwên.  Cawsom gymaint o gardiau anhygoel, go dda chi!

Meddwl am yr amgylchedd

Yn 2018/19, cynhaliom asesiad o effaith amgylcheddol rhaglen y Cynllun Gwên o ran ôl troed carbon a'r defnydd o blastig, gan ein bod am anelu at yr effaith leiaf ar yr amgylchedd.

Roedd yr adolygiad yn amcangyfrif bod ôl troed carbon blynyddol y Cynllun Gwên yn cyfateb i'r carbon a gynhyrchir gan 140 o bobl yn hedfan yn ôl ac ymlaen o Lundain i Sydney, ac am bob millwn gram o wastreff plastig a gynhyrchir gan y DU, dim ond 7g a greir gan Gynllun Gwên.

Efallai ei bod yn ymddangos fel pe baem yn defnyddio llawer o frwshys dannedd a phapur, ond gwelsom fod ein gwaith cadarnhaol i atal pydredd dannedd mewn gwirionedd yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol gwaeth o ganlyniad i gleifion yn teithio i ddeintyddfeydd a'r defnfydd o offer i gywiro pydredd dannedd.  Felly rydym yn achub yr amgylchedd yn ogystal ag achub gwenau!

Rydym yn annog yr holl feithrinfeydd ac ysgolion i leihau gwastraff wrth gyflawni'r rhaglen Cynllun Gwên, ac i'n cefnogi i sicrhau bod y rhaglen mor ecogyfeillgar â phosibl.