Neidio i'r prif gynnwy

Adran 5 - Geirfa

Cyfwng hyder

Mae cyfyngau hyder yn arwyddion o'r amrywiad naturiol a ddisgwylir o gwmpas cyfradd a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer yr achosion a maint y boblogaeth lle bu'r achosion/digwyddiadau. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sy'n seiliedig ar nifer fach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach. I'r gwrthwyneb, mae cyfraddau sy'n seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o fod â chyfyngau hyder culach. Mae cyfwng hyder o 95% yn golygu ein bod 95% yn hyderus bod gwir werth yr amcangyfrif o fewn yr ystod.

Cyfrif

Y cyfrif yw nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd dros gyfnod penodol o amser.

Cyfradd fras

Cyfradd fras yw nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy'n digwydd mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, a fynegir fel nifer y marwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth.  Defnyddiwyd y cyfraddau hyn gan eu bod fwyaf addas i lywio camau gweithredu, sef un o nodau'r RTSSS. 

Cymedr

Nifer cyfartalog y marwolaethau.

Cyfradd

Cyfraddau bras (gweler uchod) yw'r cyfraddau yn yr adroddiad hwn. 

Rhanbarthau

Mae tri rhanbarth y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin a rhanbarth y De-ddwyrain wedi'u diffinio isod ac yn cyd-fynd â'r fforymau atal hunanladdiad rhanbarthol yng Nghymru.

Y Gogledd – Bwrdd Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Awdurdodau Lleol:  Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam.

Y Canolbarth a'r Gorllewin - Byrddau Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Awdurdodau Lleol: Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys.

Y De-ddwyrain – Byrddau Iechyd:  Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Awdurdodau Lleol:  Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg.

Gwyriad safonol

Mesur o faint o amrywiad sydd mewn set o werthoedd mewn perthynas â'r cymedr.

Arwyddocâd ystadegol

Penderfynwyd arwyddocâd ystadegol wrth gymharu amcangyfrifon ardal leol â gwerth Cymru gyfan gan ddefnyddio cyfyngau hyder o 95%.  Mae amcangyfrif yr ardal leol o arwyddocâd ystadegol os yw ei chyfwng hyder y tu hwnt i werth Cymru. Os yw'r cyfwng hyder yn gorgyffwrdd â gwerth Cymru yna nid yw'r gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol.

Wrth gymharu amcangyfrifon ardal leol ag amcangyfrif ardal leol arall, grwpiau oedran yn ôl rhyw, a'r pumed amddifadedd, mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd rhwng gwerthoedd yn dangos nad yw'r gwahaniaeth yn debygol o fod wedi deillio o hap amrywiad (h.y. yn arwyddocaol yn ystadegol).  Fodd bynnag, pan mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ni allwn benderfynu a oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol ai peidio trwy gymharu cyfyngau hyder yn unig, felly mae angen prawf mwy manwl gywir. Edrychodd cymhariaeth baru ar y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau a chyfyngau hyder 95% y gwahaniaeth. Pan fydd cyfwng hyder y gwahaniaeth cyfradd yn uwch na sero, ystyrir bod y ddwy gyfradd yn sylweddol wahanol gyda hyder o 95%.

Hunanladdiad tybiedig

Mae marwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig fel yr adroddwyd yma, wedi'i phennu gan yr Heddlu. Mae’r Coleg Plismona wedi amlinellu sut i ddosbarthu hunanladdiad tybiedig ac mae’n nodi:

“..There is often a requirement for an initial judgment to be made on whether a case is potentially suicide. … Officers should use their professional judgment – based on all the known facts – and supported by the national decision model (NDM), to record whether a fatality is a suspected suicide. Witness accounts, CCTV material, the presence of a suicide note and other available evidence will help in this determination. The ‘Ovenstone criteria’ (Ovenstone, 1973) may be used as a tool to support decision making on whether a death was more likely to have been suicide than not. Any judgement made in the first instance must be reviewed as further information becomes available.”