Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 - Mesur y data

Ffynonellau data

Cafwyd data yn yr adroddiad hwn o gronfa ddata RTSSS. Darperir gwybodaeth i RTSSS yn bennaf gan bedwar llu'r heddlu yng Nghymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, gan ddefnyddio templed a ddatblygwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar gyfer portffolio atal hunanladdiad y National Police Chiefs’ Council.  Mae ffynonellau eraill yn cynnwys adroddiadau ad hoc gan wasanaethau y tu allan i Gymru, yr Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol, ac adroddiadau'r cyfryngau. 

Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig wedi eu pennu fel hunanladdiad tybiedig gan yr Heddlu (gweler 'hunanladdiad tybiedig' yn y rhestr eirfa).

Defnyddiwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (WIMD) fel amcangyfrif o amddifadedd.  Dyma fesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n cynnwys wyth parth / math gwahanol o amddifadedd: incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol a'r amgylchedd ffisegol.

Mae'r amcangyfrifon canol blwyddyn yr ONS (MYE) fel yr enwadur wrth gyfrifo cyfraddau. Mae'r ONS yw'r ffynhonnell swyddogol o feintiau poblogaeth, a gynhyrchir bob blwyddyn, gan gwmpasu poblogaethau awdurdodau lleol, siroedd, rhanbarthau a gwledydd y DU yn ôl oedran a rhyw. Roedd yr enwadur ar gyfer cyfraddau yn seiliedig ar ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, MYE 2020.

Defnyddiwyd data Cyfrifiad 2021 ONS ar gyfer amcangyfrif cyfraddau cyflogaeth.

Daeth data lleoliad yn deillio o godau post, 'What Three Words' a data cyfeirnod grid a ddarparwyd gan y cyflenwyr data, ar Grid Cenedlaethol Prydain.

Dadansoddi data

Mae'r cyfraddau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn yn gyfraddau bras gan eu bod yn fwyaf addas i lywio gweithredu, sef un o nodau'r RTSSS.  Cyfradd fras yw nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy'n digwydd mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, ac fe’u mynegir fel nifer y marwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth. Mae'r rhifiadur (nifer y digwyddiadau) a'r enwadur (amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn) yn seiliedig ar yr un ardal ddaearyddol a dylid eu seilio ar yr un cyfnod amser. Fodd bynnag, defnyddiwyd amcangyfrifon canol blwyddyn 2020 gan mai'r rhain oedd y diweddaraf sydd ar gael ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen is.

Cyfraddau amcangyfrifedig yw cyfraddau rhanbarth, bwrdd iechyd, rhyw, oedran / rhyw ac amddifadedd.  Cyfrifwyd cyfyngau hyder o 95% o gwmpas y cyfraddau hyn i roi syniad o gywirdeb amcangyfrif y gyfradd.

Ar gyfer cymariaethau rhwng:

  • amcangyfrifon rhanbarthol
  • amcangyfrifon byrddau iechyd
  • amcangyfrifon amddifadedd
  • amcangyfrifon rhyw

a'r gyfradd Cymru gyfan, mae cyfradd Cymru gyfan yn cael ei thrin fel union gyfeiriad (dim cyfwng hyder).  Mae hwn yn ddull a ddefnyddir yn eang ar gyfer amcangyfrifon ar raddfa genedlaethol, gyda'r hapgyfeiliornad yn cael ei ystyried yn ddibwys ar gyfer poblogaethau mawr. Os yw cyfwng hyder yr amcangyfrif y tu allan i gyfradd Cymru gyfan, yna mae'r gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Os yw cyfwng hyder yr amcangyfrif yn gorgyffwrdd â chyfradd Cymru gyfan, nid yw'r gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ar gyfer cymariaethau rhwng dau amcangyfrif fel:

  • amcangyfrif rhanbarthol ac amcangyfrif rhanbarthol arall
  • amcangyfrif bwrdd iechyd gydag amcangyfrif bwrdd iechyd arall
  • amcangyfrif amddifadedd gydag amcangyfrif amddifadedd arall
  • amcangyfrif rhyw gydag amcangyfrif rhyw arall

mae cyfyngau hyder rhwng gwerthoedd nad ydynt yn gorgyffwrdd yn nodi nad yw'r gwahaniaeth yn debygol o fod wedi deillio o amrywiad ar hap (h.y. yn ystadegol arwyddocaol).  Fodd bynnag, pan mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ni allwn benderfynu a oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol ai peidio trwy gymharu cyfyngau hyder yn unig, felly mae angen prawf mwy manwl gywir.  Edrychodd cymhariaeth baru ar y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau a chyfyngau hyder 95% y gwahaniaeth. Pan fydd cyfwng hyder y gwahaniaeth cyfradd yn uwch na sero, ystyrir bod y ddwy gyfradd yn sylweddol wahanol gyda hyder 95%.  Felly, lle mae cyfraddau amcangyfrifedig yn cael eu cymharu â'i gilydd, mae gwahaniaeth o bwys ystadegol os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw cyfyngau hyder y gwerthoedd yn gorgyffwrdd â'i gilydd
  • mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ond nid yw'r cyfwng hyder ar gyfer y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau yn cynnwys sero.

Pan fo’n briodol, amcangyfrifwyd nifer cymedrig (cyfartaledd) yr achosion a'r gwyriad safonol. Disgwylir bod y cyfrif o fewn un gwyriad safonol uwchben neu'n is na'r cymedr dwy ran o dair o'r amser. Mae hyn yn mesur a oes cyfrifiadau neu dueddiadau sy’n achosi pryder.

Cryfderau

Mae'r ffigurau ar gyfer marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod a nodwyd ac maent yn rhoi syniad amserol o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.  Mae hyn yn cymharu ag ystadegau swyddogol sy'n cael eu cyhoeddi yn ôl blwyddyn cofrestru, felly gallai’r marwolaethau hynny fod wedi digwydd fisoedd neu flynyddoedd ynghynt.

Cyfyngiadau

Mae'r data a gesglir yn ddata gwyliadwriaeth felly er ein bod yn gallu darparu data mwy amserol nag ystadegau swyddogol, nid yw'r data o ansawdd mor uchel.

Nid oes data tueddiadau ar gael, gan mai dim ond data o 1 Ebrill 2022 sydd ar gael.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys niferoedd bach sy'n dueddol o amrywio. 

Mae cyfyngau hyder mawr o amgylch amcangyfrifon y gyfradd.

Efallai na fydd pob achos o farwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig ymysg preswylwyr Cymru wedi'i nodi oherwydd:

  • Nid oes gennym gysylltiadau llawn eto â thimau RTSSS eraill y tu allan i Gymru, felly mae'n bosibl na fyddwn wedi cael gwybodaeth am holl farwolaethau preswylwyr Cymru a ddigwyddodd y tu allan i Gymru.
  • Nid oes gennym broses sefydledig ar gyfer cofnodi marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig lle digwyddodd y farwolaeth yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad.

Roedd data ar grŵp ethnig, cyfeiriadedd rhywiol a meddiannaeth yn anghyflawn felly ni chawsant eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Roedd data ar salwch meddwl ac a oedd yr unigolyn yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn seiliedig i raddau helaeth ar ddata o systemau'r Heddlu, nid systemau iechyd, er bod rhai lluoedd heddlu yn cynnwys data o systemau iechyd wrth ddarparu data i RTSSS a gallwn ddilysu rhai setiau data ar wasanaethau iechyd meddwl (ond nid pob un) trwy edrych ar ffynonellau eraill. 

Gall maint y broses o gasglu data amrywio rhwng gwahanol luoedd heddlu gan fod systemau gwahanol yn cael eu cyrchu i gael gafael ar ddata.

Mae rhestr o feysydd data wedi'u datblygu ar gyfer yr RTSSS ond nid ydym yn gallu casglu'r holl ddata eto, e.e. crefydd, statws anabledd.