Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1 - Cefndir

Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae'r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy'n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â marwolaethau preswylwyr Cymru sy'n digwydd y tu allan i Gymru.

Nod RTSSS yw creu storfa genedlaethol ganolog o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yng Nghymru a chynhyrchu'r wybodaeth angenrheidiol i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.

Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn cael eu hadrodd i'r RTSSS cyn cwest crwner. Rhagwelir y gallai nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest Crwner ddod i’r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.

Mae data ar farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig a adroddir gan RTSSS yn wahanol i ddata hunanladdiad fel yr adroddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Ymhlith yr achosion o hunanladdiadau a adroddir gan y ONS mae marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yn dilyn cwest lle mae crwner wedi penderfynu:

  • casgliad o hunanladdiad
  • casgliad naratif (lle gellir cofnodi'r farwolaeth fel hunan-niweidio bwriadol neu anaf neu wenwyno o fwriad amhendant, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y crwner)
  • casgliad agored (lle gellir codio'r farwolaeth fel anaf neu wenwyno bwriadol amhenodol yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y crwner).

(Cyfraddau hunanladdiad UK QMI. 2019, ONS)

Ystadegau hunanladdiad a gyhoeddir gan yr ONS yw'r ystadegau swyddogol ar hunanladdiad a dylid eu defnyddio at ddibenion cynllunio strategol a chymharu. Cyhoeddwyd ystadegau'r ONS ar farwolaethau a gofrestrwyd yn 2022 ar 19 Rhagfyr 2023.

Defnyddio data RTSSS

Mae proses y cwest yn golygu y gall gymryd rhwng misoedd a blynyddoedd i gofrestru'r farwolaeth. Gan fod ystadegau hunanladdiad swyddogol ar gyfer marwolaethau a gofrestrwyd yn ystod blwyddyn galendr, mae’n bosibl na fyddant yn adlewyrchu unrhyw newidiadau gwirioneddol yng nghyfradd y marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd y flwyddyn honno. Bwriedir i ddata RTSSS fod ar gael yn gynharach nag ystadegau swyddogol fel bod swyddogion arweiniol atal hunanladdiad, fforymau amlasiantaeth lleol ar gyfer atal hunanladdiad, timau iechyd cyhoeddus lleol, yr heddlu, sefydliadau'r trydydd sector ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud ag atal hunanladdiad, yn gallu ymateb yn gyflym i unrhyw batrymau rhanbarthol neu genedlaethol sy'n codi er mwyn atal marwolaethau yn y dyfodol. Mae defnyddwyr wedi gofyn i ddata fod ar gael at y diben hwn.  Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn ein galluogi i ddeall tueddiadau mewn modd amserol.

Mae rhagor o wybodaeth am RTSSS ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real.  Rydym yn croesawu sylwadau ar yr adroddiad hwn. E-bostiwch unrhyw adborth, sylwadau neu ymholiadau i PHW.RTSSS@wales.nhs.uk.