Neidio i'r prif gynnwy

Adran 3 - Canfyddiadau

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yng Nghymru

Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, bu farw 356 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig - naill ai yng Nghymru neu y tu allan i Gymru. Bu farw 19 o bobl oedd yn preswylio mewn gwledydd eraill mewn achosion o hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd yng Nghymru.  ​

Mae'r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â’r 356 o farwolaethau ymysg preswylwyr Cymru a ddigwyddodd yn sgil hunanladdiad tybiedig.