Neidio i'r prif gynnwy

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2022-23

Cyhoeddwyd Ionawr 2024

 

Prif Bwyntiau

  1. Mae casglu a rhannu data trwy Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real yn caniatáu cymryd camau prydlon i atal achosion pellach o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol i ddefnyddwyr ar batrymau cenedlaethol a rhanbarthol.  
  2. Dyma'r flwyddyn gyntaf o gasglu data a bydd y broses ddadansoddi yn datblygu wrth i ddata pellach gael eu casglu. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth ddefnyddio'r data oherwydd prinder y gyfres amser a'r niferoedd bach mewn rhai categorïau.
  3. Caiff marwolaethau yn sgil achos tybiedig o hunanladdiad eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn cwest crwner. Rhagwelir y gallai nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest Crwner ddod i’r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.
  4. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, bu farw 356 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig naill yng Nghymru neu du hwnt, gan roi cyfradd o 12.6 fesul 100,000 o bobl.
  5. Dynion oedd 78% o farwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd oed-benodol ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35 a 44 oed (29.4 fesul 100,000), ac yna dynion rhwng 25 a 34 oed (29.2 fesul 100,000).
  6. O safbwynt ardaloedd preswyl penodol, y Canolbarth a'r Gorllewin oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (15.7 fesul 100,000), a oedd yn ystadegol wahanol iawn i'r gyfradd Cymru gyfan a chyfradd y Gogledd a'r De-ddwyrain.
  7. Roedd cyfraddau marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r mwyaf difreintiedig nesaf (13.9 fesul 100,000 a 13.7 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na'r gyfradd ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (9.5 fesul 100,000).
  8. Y gyfradd hunanladdiad ymhlith pobl ddi-waith oedd 114.1 fesul 100,000, sydd o leiaf 12 gwaith yn uwch nag mewn unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall.
  9. Roedd 74% o'r marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl a oedd yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol.

Cymorth

Os oes angen cymorth arnoch, mae gwybodaeth am ffynonellau cymorth yng Nghymru ar gael yma: Cael Cymorth Nawr - NHS SSHP.  Gallwch gysylltu â'r Samariaid yn rhad ac am ddim ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn ar 116 123 (y DU a Gweriniaeth Iwerddon) neu yn Gymraeg ar 0808 164 0123 (7pm-11pm), drwy e-bostio jo@samaritans.org, neu ewch i www.samaritans.org i ganfod eich cangen agosaf. Mae ffynonellau cymorth ychwanegol wedi'u rhestru ar dudalen gymorth y GIG ar gyfer meddyliau hunanladdol.

Dadlwythwch mewn fformat PDF