Neidio i'r prif gynnwy

Adran 4 - Casgliadau

Bu farw 356 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig, naill ai yng Nghymru neu y tu allan i Gymru, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, gan roi cyfradd o 12.6 i bob 100,000 o bobl.  Dynion oedd 78% o’r marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd oed-benodol ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35 a 44 oed (29.4 fesul 100,000) a dynion 25-34 oed (29.2 fesul 100,000). Rhanbarthau'r Canolbarth a'r Gorllewin oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (15.7 fesul 100,000), a oedd yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol i'r gyfradd Cymru gyfan a chyfraddau'r Gogledd a'r De-ddwyrain.

Roedd cyfraddau marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r rhai mwyaf difreintiedig nesaf (13.9 fesul 100,000 a 13.7 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na chyfradd preswylwyr yn yr ardal leiaf difreintiedig (9.5 fesul 100,000). Y gyfradd farwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl oedd wedi’u cofnodi yn ddi-waith oedd 114.1 fesul 100,000, sef o leiaf 12 gwaith yn uwch nag mewn unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall. Roedd 74% o'r marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl a oedd yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol.

Bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol er mwyn llywio gwaith atal hunanladdiad yng Nghymru er mwyn lleihau nifer yr hunanladdiadau ym mhoblogaeth Cymru.