Neidio i'r prif gynnwy

Tetanws, difftheria a pholio (Td/IPV neu'r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen

 

Cefndir

Mae difftheria, tetanws, a poliomyelitis yn afiechydon hysbysadwy.

Difftheria

Haint acíwt yw difftheria sydd fel rheol yn effeithio ar y nasoffaryncs a achosir gan y bacteriwm Corynebacterium diphtheria, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i bum diwrnod.

Tetanws

Mae tetanws yn haint a nodweddir gan gyfangiadau cyhyrol poenus. Mae’n cael ei achosi gan y bacteriwm Clostridium tetani a gall effeithio ar unrhyw oedran. Mae'r organeb yn hollbresennol yn yr amgylchedd ac mae ganddi gyfnod deor o un diwrnod i sawl mis.

Poliomyelitis

Mae polio (Poliomyelitis) yn haint a nodweddir gan ymddangosiad acíwt parlys llipa. Mae’n cael ei achosi gan Boliofeirws math 1, 2 neu 3, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan y llwybr ysgarthol-geneuol ac mae ganddi gyfnod deor o 7 i 14 diwrnod.

Y brechlyn

Rhoddir Revaxis pan fyddwch tua 14 oed fel rhan o'r amserlen genedlaethol. Mae hyn tua 10 mlynedd ar ôl y pigiad atgyfnerthu cyn-ysgol, a roddir yn rheolaidd yn 3 oed a 4 mis.

Mae Revaxis yn frechlyn chwistrelladwy anweithredol mewn chwistrelliad wedi'i lenwi ymlaen llaw.

Nid yw'n cynnwys unrhyw facteria na feirysau byw ac ni all achosi unrhyw un o'r afiechydon y mae'n gwarchod rhagddynt.

Gellir defnyddio Revaxis i reoli anafiadau sy’n dueddol o arwain at detanws ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion dros 10 oed nad ydynt wedi cael eu prif gwrs o frechlynnau sy’n cynnwys tetanws.

Dylid rhoi tetanws imiwnoglobwlin yn gydrefol yn unol â’r argymhellion swyddogol. Gellir defnyddio Infanrix hexa neu Vaxelis i reoli anafiadau sy’n dueddol o arwain at detanws ymhlith pobl.

Canllaw ar y triniaeth o achoison tetanws a'r rheolaeth o anafiadau allai achosi tetanws i weithwyr iechyd

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau rheolaidd a'r rhai sydd ddim yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch am allweddeiriau e.e.: enwau afiechydon; difftheria; tetanws, neu bolio)

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

NES -  Imiwneiddio heb ei drefnu ar gyfer plant a phobl ifanc (Mehefin 2019)

 

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu Imiwneiddio.

Mae gwybodaeth ac adnoddau pellach am hyfforddiant imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Difftheria – y llyfr gwyrdd, pennod 15

Tetanws – y llyfr gwyrdd, pennod 30

Polio – y llyfr gwyrdd, pennod 26

Tetanws: cyngor i weithwyr iechyd

Brechu unigolion sydd gyda statws imiwneiddio ansicr ney angyflawn - GOV.UK

Cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) a gweithdrefnau

Gellir dod o hyd i dempliedi PGD ar y dudalen Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs) a Tudalen Glanio Protocolau.

Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol

Data a goruchwyliaeth