Mae’r dudalen hon yn cynnwys adroddiadau goruchwyliaeth cyhoeddus. Gall staff GIG Cymru gweld adroddiadau pellach ar safle SharePoint VPDP.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am sut mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (RFCA) Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn casglu ac yn prosesu data personol. Dylid ei darllen ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd ICC sydd i'w gael yma: Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ICC yn casglu gwybodaeth ddemograffig, glinigol a brechu o amrywiaeth o ffynonellau i alluogi gwerthuso ac adrodd cadarn ar raglenni brechu ledled Cymru.
Daw gwybodaeth am frechiadau plant o'r System Integredig Plentyndod a Phobl Ifanc (CYPrIS) yn bennaf, tra bod data brechu ar gyfer oedolion yn bennaf yn dod o systemau practisiau meddyg teulu a System Imiwneiddio Cymru Gyfan (WIS). Mewn achosion mwy penodol, gellir casglu data brechu a'i anfon i Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ICC o ffynonellau eraill, megis systemau’r byrddau iechyd lleol, systemau data mamolaeth neu fferyllfeydd.
Mae casglu data yn gywir ac yn brydlon yn hanfodol ar gyfer creu ystadegau am gwmpas y brechiadau a roddir fel y gellir ei ddefnyddio i fonitro tueddiadau, asesu cydraddoldeb o ran y rhai r sy'n cael eu brechu a nodi ardaloedd a allai fod mewn perygl o achosion o glefydau y gellir eu hatal drwy frechu.
Gellir ategu data brechu â gwybodaeth ddemograffig i alluogi monitro cydraddoldeb o ran y rhai sy'n cael eu brechu ac i nodi ardaloedd lle gallai fod angen rhoi adnoddau neu ymyriadau ar waith.
Gellir defnyddio gwybodaeth ddiagnostig a data gwyliadwriaeth o labordai ledled Cymru a Labordai Cyfeirio Cenedlaethol yn Lloegr, yn ogystal â hysbysiadau clinigol gan Dîm Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ochr yn ochr â data brechu i werthuso effeithiolrwydd ac effaith brechlynnau. Mewn rhai achosion, mae hyn yn gofyn am gysylltu gwybodaeth glinigol â hanes brechu.
Gellir defnyddio gwybodaeth am dderbyniadau i'r ysbyty, galwadau i GIG 111, mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys neu ymgynghoriadau â meddygon teulu hefyd i helpu i asesu'r risgiau a ddaw gan heintiau y gellir eu hatal drwy frechu, effaith y brechlynnau a’u heffeithiolrwydd.
Defnyddir allbynnau o werthusiadau parhaus o'r rhaglenni brechu i roi adborth i lunwyr polisi, y rhai sy'n darparu ac yn rheoli gwasanaethau brechu, a'r gymuned wyddonol ac iechyd y cyhoedd, i gefnogi datblygu canllawiau iechyd y cyhoedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Ni chaiff data lefel unigol ei rannu y tu allan i Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ICC oni bai bod ei angen at ddibenion diogelu iechyd cenedlaethol neu drawsffiniol.
Lle y bo modd, dim ond data dienw sy'n cael ei gasglu a'i storio. Fodd bynnag, pan na fydd hyn bosibl, cesglir y lefel isaf bosibl o wybodaeth adnabyddadwy sydd ei hangen i ni gyflawni ein gwaith yn llwyddiannus er mwyn rheoli lledaeniad clefydau y gellir eu hatal drwy frechu. Mae'r holl ddata yn cael ei storio'n ddiogel ac yn cydymffurfio â chanllawiau llywodraethu gwybodaeth GIG Cymru. Ni chaiff data ei gadw am gyfnod hwy nag sydd ei angen ar gyfer cyflawni'r dasg. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen gwneud data'n ddi-enw a'i gadw am gyfnod amhenodol ar gyfer ymchwiliad epidemiolegol yn y dyfodol.
Mae brechu yn chwarae rhan bwysig tuag at reoli clefydau trosglwyddadwy. Mae'n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gasglu a phrosesu gwybodaeth am 'glefydau hysbysadwy' a 'chyfryngau achosol.' Mae wedi'i awdurdodi gan y gyfraith i brosesu gwybodaeth mewn cysylltiad â rheoli ac atal lledaeniad clefydau hysbysadwy.