Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Epidemioleg llid yr ymennydd a chlefyd meningococaidd a ffynonellau gwyliadwriaeth

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 9fed Mehefin 2025

  • Goruchwyliaeth

Epidemioleg

Clefyd meningococaidd

Mae mwyafrif yr heintiau meningococol yn cael eu gweld mewn babanod a phlant o dan bum mlwydd oed. Mae uchafbwynt eilaidd, llai mewn achosion ymhlith oedolion ifanc. 

Mae’r rhan fwyaf o achosion o glefyd meningococol yn digwydd yn achlysurol, gyda llai na 5% o achosion yn digwydd mewn clystyrau. Mae brigiadau o achosion o glefyd meningococol yn fwy cyffredin ymhlith rhai yn eu harddegau ac oedolion ifanc, er eu bod yn dal yn brin. Mae’r rhain yn cynnwys brigiadau o achosion sydd wedi’u clystyru o amgylch ysgolion a phrifysgolion. Gall ymyriadau iechyd y cyhoedd gynnwys brechu (yn dibynnu ar y serogrŵp) a chemoproffylacsis. 

Mae clefyd meningococol yn dilyn patrwm tymhorol gydag uchafbwynt yn y gaeaf. Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae’r rhan fwyaf o achosion o glefyd meningococol yn y DU wedi bod o ganlyniad i grŵp B (MenB) a grŵp C (MenC). Mae’r brechlyn MenC a gyflwynwyd ym 1999 bellach wedi llwyddo i leihau achosion i nifer fach yn unig bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, MenB sy’n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o achosion o glefyd meningococol.  

Mae gan glefyd meningococol gyfradd marwolaethau o tua 5-10%. 

Llid yr ymennydd a achosir gan organebau eraill

Mae epidemioleg llid yr ymennydd o ganlyniad i organebau eraill yn fwy cymhleth i’w chadarnhau. Mae achosion o lid yr ymennydd sy’n deillio o haint â feirws y frech goch, feirws clwy’r pennau neu facteria Haemophililus influenzae B wedi lleihau ers cyflwyno brechiadau rheolaidd i blant yn erbyn y clefydau hyn. 

Ar ôl clefyd meningococol, haint ymledol â’r bacteriwm Streptococcus pneumoniae (a elwir hefyd yn niwmocows) yw un o’r achosion o septisemia (gwenwyniad gwaed) a llid yr ymennydd a adroddir amlaf. 

Argymhellir cyflwyno brechu yn erbyn sawl seroteip niwmococws sy’n gysylltiedig yn benodol ag achosi clefyd ymledol ar gyfer rhai dros 65 oed, unigolion mewn grŵp risg uchel o gael haint ac ar gyfer pob plentyn (yn rhan o’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant er 2006).

Ffynonellau o ddata gwyliadwriaeth ar gyfer Cymru

Data hysbysu

Mae’n ofyniad statudol yn y DU i hysbysu am bob achos o lid yr ymennydd sydd wedi’i ddiagnosio’n glinigol, p’un a yw wedi’i gadarnhau’n ficrobiolegol ai peidio. Daeth y gofyniad statudol hwn i hysbysu am rai clefydau heintus i fodolaeth ym 1891 ac mae’n cynnwys pob math o lid yr ymennydd (beth bynnag fo’r achos). Rhaid hysbysu hefyd am bob achos o septisemia meningococol sydd wedi’i ddiagnosio’n glinigol. Mae hysbysiadau yng Nghymru yn cael eu cofnodi yn system rheoli achosion a digwyddiadau Cymru gyfan, a elwir yn lleol yn Tarian. 

Pryd bynnag y bo modd, mae hysbysiadau am lid yr ymennydd yn cael eu his-gategoreiddio h.y. meningococol, niwmococol, feirysol, arall penodol ac arall amhenodol. Yn aml, dim ond ar ôl i brawf labordy ei gadarnhau y gellir pennu’r math o lid yr ymennydd ac efallai na fydd yn cael ei gadarnhau nes bod canlyniadau’r profion ar gael. 

Un o brif ddibenion y system hysbysu yw canfod brigiadau o achosion ac epidemigau posibl mewn modd amserol. Mae cywirdeb diagnosis yn eilradd ac er 1968 amheuaeth glinigol o haint hysbysadwy yw’r cyfan sydd ei angen. Os bydd diagnosis o lid yr ymennydd yn profi’n anghywir yn ddiweddarach, dylid tynnu’r hysbysiad yn ôl, felly gall nifer yr hysbysiadau a adroddir newid dros amser.  

Achosion o glefyd meningococol sydd wedi’u cadarnhau gan labordy 

Achosion a gadarnhawyd gan labordy yw achosion pan gymerir sampl, fel arfer o waed neu hylif asgwrn cefn, gan glaf sydd â symptomau ac mae profi’r sampl hwnnw mewn labordy yn dangos presenoldeb bacteria meningococol, neu DNA o’r bacteria hynny. Gall profion pellach gadarnhau pa serogrŵp o facteria meningococol sy’n gyfrifol am y clefyd. 

Fodd bynnag, bob blwyddyn ceir nifer o achosion o glefyd meningococol nad ydynt yn cael eu cadarnhau yn y labordy. Dyma achosion pan fo’r claf yn cael diagnosis ar sail symptomau’r clefyd, ond nid oes cadarnhad o brofion labordy naill ai oherwydd nad yw’n bosibl cymryd sampl neu fod triniaeth (sy’n lladd yr organeb) wedi dechrau cyn y gellir cymryd sampl. Ni fydd achosion heb eu cadarnhau yn cael eu cyfrif yn y data ar achosion o’r clefyd a gadarnhawyd gan labordy, ond byddant yn bresennol yn y data hysbysu.   

Cyfraddau llid yr ymennydd a chlefyd meningococol yng Nghymru 

Nifer yr hysbysiadau o septisemia meningococol, pob math o lid yr ymennydd a math penodol o lid yr ymennydd yng Nghymru: 2015-2025 

Graff bar wedi’i bentyrru sy’n dangos nifer yr hysbysiadau o achosion llid yr ymennydd a septisemia rhwng 2015 a 2025. Mae’r categorïau’n cynnwys septisemia meningococaidd (coch), llid yr ymennydd meningococaidd (gwyrdd), llid yr ymennydd niwmococaidd (porffor), llid yr ymennydd feirysol (glas), a llid yr ymennydd arall ac amhenodol (melyn). Roedd cyfanswm yr hysbysiadau ar ei uchaf rhwng 2015 a 2019, gan gyrraedd brig o tua 180 o achosion yn 2017. Gostyngodd yr hysbysiadau’n sylweddol yn 2020 ac fe gyrhaeddwyd y lefel isaf, tua 50 o achosion, yn 2021. Cynyddodd y nifer yn gymedrol o 2022 ymlaen, ond arhosodd yn is na’r lefelau cyn 2020. Llid yr ymennydd feirysol oedd y cyfrannwr mwyaf yn y rhan fwyaf o flynyddoedd. Gostyngodd septisemia meningococaidd ar ôl 2017, tra bod llid yr ymennydd niwmococaidd a llid yr ymennydd arall neu amhenodol yn gymharol sefydlog. Roedd cyfanswm yr hysbysiadau yn 2025 tua 85 o achosion.

Ffynhonnell: System rheoli achosion a digwyddiadau Tarian Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nifer yr hysbysiadau o septisemia meningococol, pob math o lid yr ymennydd a math penodol o lid yr ymennydd yng Nghymru: 2015-2025 

Blwyddyn  Hysbysiadau o septisemia meningococol  Cyfanswm yr hysbysiadau o lid yr ymennydd  Hysbysiadau o lid yr ymennydd meningococol Hysbysiadau o lid yr ymennydd niwmococol  Hysbysiadau o lid yr ymennydd feirysol  Hysbysiadau o lid yr ymennydd amhenodol  
2015 29 138 23 19 28 39
2016 42 144 9 28 31 34
2017 33 185 23 29 51 49
2018 20 150 19 30 42 39
2019 23 141 13 37 49 19
2020 14 84 9 16 34 11
2021 4 50 5 12 24 5
2022 8 78 9 20 32 9
2023 17 86 13 20 24 12
2024 26 89 20 8 23 12
2025 9 84 15 27 16 17

Ffynhonnell: System rheoli achosion a digwyddiadau Tarian Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Nifer yr adroddiadau labordy o Neisseria meningitidis yn ôl serogrŵp yng Nghymru 2010-2025  

Siart bar wedi’i stacio yn dangos achosion o glefyd meningococol ymledol a gadarnhawyd yn labordy fesul blwyddyn rhwng 2010 a 2025, wedi’u dadansoddi yn ôl serogrŵp. Mae’r rhan fwyaf o achosion yn deillio o MenB drwy’r cyfnod cyfan. Mae cyfanswm yr achosion yn gostwng o 2010 hyd at tua 2021, gyda chynnydd bach rhwng 2022 a 2024, ac yna gostyngiad yn 2025. Mae serogrwpiau eraill (MenC, MenW, MenY ac achosion heb eu teipio) yn cyfrannu niferoedd llai drwy’r cyfnod.

Ffynhonnell: Uned Gyfeirio Meningococol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU

Nifer yr adroddiadau labordy o Neisseria meningitidis yn ôl serogrŵp yng Nghymru 2010-2025 

Blwyddyn Grŵp B Grŵp C Grŵp W Grŵp Y Ddim ar gael Cyfanswm
2010 74 1 0 3 2 80
2011 61 1 3 6 2 73
2012 67 0 4 2 0 73
2013 50 0 2 1 0 53
2014 35 2 2 7 0 46
2015 24 1 11 4 1 41
2016 33 0 4 6 1 44
2017 16 6 14 7 0 43
2018 17 4 7 0 1 29
2019 17 2 7 4 4 35
2020 14 1 4 1 0 20
2021 2 0 0 0 1 3
2022 11 1 1 0 4 17
2023 21 1 1 1 5 29
2024 42 0 0 1 2 45
2025 21 0 2 0 1 24

Ffynhonnell: Uned Gyfeirio Meningococol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU

Imiwneiddio

Mae brechlynnau ar gael yn erbyn rhai mathau o lid yr ymennydd bacterol. Maent yn cael eu rhoi fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant a phobl ifanc.  Dyma grwpiau meningococi B ac A, C, W, Y, a niwmococws a Haemophilus influenzae (HiB), sydd hefyd yn gallu achosi llid yr ymennydd. 

Yn ogystal, mae brechu yn erbyn rhai clefydau eraill, fel clwy’r pennau a’r frech goch sy’n gallu achosi llid yr ymennydd, hefyd yn rhan o’r amserlen imiwneiddio plant. 

Mae gwybodaeth am nifer y plant sy’n cael eu brechu yn cael ei fonitro a’i adrodd yn chwarterol drwy Gynllun COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau) Cymru. Mae adroddiadau chwarterol a blynyddol ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau yn erbyn clefyd meningococol ar gael yma: 

Dolenni i wyliadwriaeth llid yr ymennydd/meningococaidd arall

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig