Neidio i'r cynnwys

Llid yr ymennydd a chlefyd meningococol

Gwybodaeth:

Mae cyhoeddiad gweinidogol wedi cael ei wneud am gynnig brechu cyfnod penodol. Mae hyn ar gyfer brechiad Grŵp B Meningococol (MenB).

Rydym yn aros am y polisi terfynol yng Nghymru ar bwy sy’n gymwys a sut y bydd y brechiad yn cael ei gynnig. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir.

Mae brechlynnau rhag clefyd meningococol yn gweithio’n dda iawn. Dyma’r ffordd orau o amddiffyn rhag llid yr ymennydd a sepsis. Mae brechu’n helpu i gadw plant yn ddiogel.

Mae’n bwysig amddiffyn plant oherwydd bod llid yr ymennydd a sepsis yn gallu:

  • ymddangos yn sydyn  
  • datblygu’n gyflym iawn  
  • lladd mewn oriau, a  
  • gadael goroeswyr â phroblemau iechyd difrifol neu anableddau gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys niwed i’r ymennydd neu’r nerfau, yn ogystal ag achosi i unigolyn fynd yn fyddar neu’n ddall, neu ddatblygu epilepsi (ffitiau).  

Mae clefyd meningococol yn fwyaf cyffredin mewn babanod o dan flwydd oed. Dyma pam mae babanod yn cael cynnig y brechlyn MenB. Mae’n dod yn llai cyffredin wrth i blant fynd yn hŷn. Fodd bynnag, gwelir cynnydd llai hefyd mewn achosion ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed.

Nid yw systemau imiwnedd plant ifanc wedi datblygu’n llawn eto i ymladd haint. Ond gall clefyd meningococol ddigwydd ar unrhyw oedran, felly mae’n bwysig bod yn gyfarwydd ag arwyddion a symptomau’r clefyd.

Gwybodaeth:

Mae amddiffyniad rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B yn bwysig.

  • babanod yn cael eu brechiadau MenB pan gânt eu cynnig
  • pobl ifanc yn eu harddegau’n cael eu brechiad MenACWY yn yr ysgol

Clefyd meningococol

Sut mae bacteria MenB yn achosi salwch difrifol? 

Gall bacteria MenB fyw yn y trwyn neu’r gwddf heb achosi unrhyw broblemau o gwbl. Gall y bacteria gael eu trosglwyddo o’r naill unigolyn i’r llall trwy gysylltiad agos. Er enghraifft, gall pobl sy’n byw yn yr un cartref ledaenu bacteria MenB i bobl eraill trwy besychu neu disian.

A oes modd atal clefyd meningococol oherwydd bacteria MenB

Mae’r brechlyn MenB wedi’i gynllunio i amddiffyn rhag y rhan fwyaf o achosion o glefyd meningococol a achosir gan facteria MenB. Ers cyflwyno’r brechlyn MenB yn 2015, mae achosion o glefyd meningococol mewn plant ifanc wedi gostwng dros 60% erbyn trydedd flwyddyn y rhaglen frechu.

Llid yr ymennydd

Arwyddion a symptomau llid yr ymennydd

Gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos o gwbl.

Babanod a phlant bach

  • Twymyn, dwylo a thraed oer
  • Cwynfanllyd, ddim yn hoffi cael eu trin
  • Anadlu’n gyflym neu’n rhochian
  • Crio’n anarferol, griddfan
  • Gwdwd stiff, ddim yn hoffi goleuadau llachar
  • Gwrthod bwyd a chwydu
  • Cysglyd, llipa, ddim yn ymateb
  • Croen blotiog golau. Smotiau neu frech (defnyddiwch y prawf gwydr – gweler isod)
  • Y ffontanel (man meddal) yn dynn ac wedi chwyddo
  • Confylsiynau neu drawiadau

Efallai na fydd gan fabanod ifanc iawn dwymyn. Gallai eu tymheredd fod yn normal neu’n isel.

Plant

  • Twymyn, dwylo a thraed oer
  • Cysglyd, anodd eu deffro
  • Poen difrifol yn y cyhyrau
  • Cur pen / pen tost difrifol
  • Ddim yn hoffi goleuadau llachar
  • Chwydu
  • Dryswch a thymer flin
  • Croen blotiog golau. Smotiau neu frech (defnyddiwch y prawf gwydr – gweler isod)
  • Gwddwf stiff
  • Confylsiynau neu drawiadau

Prawf gwydr meningitis

Ni fydd brech llid yr ymennydd nodweddiadol yn pylu pan fyddwch yn pwyso arni. I’w gwirio, pwyswch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen. Nid yw pawb yn cael y frech hon. Mae fel arfer yn dechrau fel smotiau bach ond yn datblygu’n gyflym yn batsys porffor dwfn. 

  • Gwasgwch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen.   
  • Gall smotiau neu frech (neu’r ddau) bylu ar y dechrau.   
  • Daliwch ati i wirio.   
  • Mae twymyn gyda smotiau neu frech (neu’r ddau symptom) nad ydynt yn pylu dan bwysau yn argyfwng meddygol.   
  • Os yw’ch plentyn yn sâl ac yn gwaethygu, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith.   
  • Gall y smotiau neu’r frech fod yn anoddach eu gweld ar groen tywyll. 

Beth dylwn i ei wneud os ydw i’n amau ​​llid yr ymennydd a sepsis? 

Gwybodaeth:

Peidiwch ag aros am frech.

Os yw eich babi neu blentyn bach yn sâl ac yn gwaethygu, ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith.

Gall babi neu blentyn bach â llid yr ymennydd a sepsis waethygu’n gyflym iawn. Parhewch i’w gwirio.

Ymddiriedwch yn eich greddf – ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith.

Cofiwch – ni fydd y symptomau’n ymddangos mewn trefn, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos o gwbl. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am iechyd eich plentyn, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith. Os ydych chi’n amau ​​​​​​bod llid yr ymennydd a sepsis gan rywun, ewch i adran achosion brys eich ysbyty agosaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Meningitis Now (safle allanol, Seasneg yn unig) neu ffoniwch linell gymorth Meningitis Now ar 0808 80 10 388

Dysgwch fwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 (safle allanol) neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.


Data