Brechlyn MenB ar gyfer pobl ifanc
Cefndir
“Gall clefyd meningococol achosi llid yr ymennydd (chwydd yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a sepsis (sef adwaith sy’n peryglu bywyd i haint a all niweidio eich corff cyfan). Mae llid yr ymennydd a sepsis yn glefydau sy’n bygwth bywyd.”
Talfyriad o ‘facteria meningococol grŵp B’ yw MenB. Mae MenB yn un o sawl math o facteria meningococol. Mae’r mathau mwyaf cyffredin eraill yn cynnwys W, Y ac C.
Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol. Cynigir brechlyn gwahanol i bobl ifanc yn eu harddegau, o’r enw MenACWY, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau A, C, W ac Y.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Ydw i’n gymwys i gael y brechlyn MenB?
Bydd y brechiad MenB yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008.
Mae’r brechlyn hefyd ar gael i’r rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (sy’n troi’n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy’n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol a’r rhai o Weinyddiaethau Datganoledig y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.
Ni fydd y brechlyn yn cael ei gynnig:
- I’r rhai a aned cyn 21/07/2001
- i’r rhai o dan 25 oed sy’n parhau â’u hastudiaethau (nid myfyrwyr sy’n dechrau am y tro cyntaf)
- i’r rhai mewn lleoliadau preswyl ar lefel ysgol, er enghraifft ysgolion preswyl chweched dosbarth, oni bai eu bod yn gymwys oherwydd eu hoedran
- i’r rhai a gwblhaodd gwrs 2 ddos o Bexsero® yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
- i’r rhai a gwblhaodd gwrs 2 neu 3 dos o Trumenba® yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
Dydw i ddim yn mynd i’r brifysgol na’r coleg, pam mae’r brechlyn yn cael ei gynnig i mi?
Y risg fwyaf yw i’r rhai sy’n mynd i brifysgol neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf. Fel arfer mae hyn ar gyfer y rhai sy’n 17/18 oed. Felly mae’r brechlyn yn cael ei gynnig i bob person ifanc o’r oedran hwn, beth bynnag fo’i gynlluniau o ran gyrfa.
Beth am bobl nad ydynt yn gymwys fel rhan o’r rhaglen frechu MenB hon?
Yng Nghymru, mae amserlen frechu reolaidd sy’n cynnig brechiad MenB i fabanod dan 2 oed. Dechreuodd y rhaglen frechu hon yn 2015. Ni chynigir brechiad MenB fel mater o drefn i bobl dros 2 oed. Efallai y bydd rhai pobl sydd wedi’u nodi fel rhai sydd mewn mwy o berygl hefyd yn cael cynnig brechiad MenB trwy’r GIG.
I’r rhai nad ydynt yn gymwys i’w dderbyn fel rhan o raglenni’r GIG, efallai y bydd y brechlyn ar gael yn breifat trwy rai fferyllfeydd a meddygfeydd teulu.
Ynglŷn âr brechlyn
Beth yw brechlyn MenB?
Mae brechlyn MenB yn cynnig amddiffyniad rhag clefyd meningococol a achosir gan rai mathau o MenB. Fe’i rhoddir fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.
Bydd angen i chi gael dau ddos o’r brechlyn, o leiaf 28 diwrnod ar wahân i gael yr amddiffyniad gorau.
Pa mor hir mae’n ei gymryd i’r brechlyn weithio?
Ar ôl derbyn dau ddos o’r brechlyn, gall gymryd pythefnos i’ch corff adeiladu amddiffyniad rhag haint MenB.
Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r cwrs dau ddos llawn o leiaf pythefnos cyn dechrau mewn prifysgol neu addysg bellach breswyl. Mae hyn yn rhoi amser i’ch corff adeiladu amddiffyniad.
Dylech chi gael y brechlyn cyn gynted ag y cewch chi ei gynnig, peidiwch ag oedi.
Pam ddylwn i gael y brechlyn?
Mae’r risg o haint yn fwy mewn pobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n dechrau mewn prifysgol am y tro cyntaf. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yr oedran hwn wedi cael cynnig brechlyn MenB o’r blaen. Mae hyn yn golygu bod gennych ychydig iawn o amddiffyniad, neu ddim amddiffyniad o gwbl, rhag haint a achosir gan facteria MenB.
Ble alla i gael y brechlyn MenB?
Bydd pobl ifanc 17 ac 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008 yn derbyn llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd. Anfonir llythyrau ar ôl 6 Gorffennaf. Ni fydd y rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (a fydd yn troi’n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy’n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026 yn derbyn llythyr ond dylent gysylltu â’u bwrdd iechyd ar ôl 20 Gorffennaf i ddarganfod ble i gael eu brechiad yn eu hardal leol.
Mae rhestr o fyrddau iechyd a’u manylion cyswllt ar gael.
Peidiwch â chysylltu â’ch bwrdd iechyd cyn 20 Gorffennaf 2026 gan na fydd rhagor o wybodaeth yn barod eto.
Os ydych chi o dan 25 oed ac yn mynychu Addysg Uwch neu Addysg Breswyl Bellach am y tro cyntaf yr Hydref hwn, bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o’ch llythyr cynnig gan y brifysgol neu’r coleg pan fyddwch chi’n cyrraedd eich apwyntiad.
Pryd a sut y byddaf yn cael cynnig y brechlyn?
Cynigir y dosau cyntaf yng Nghymru o 20 Gorffennaf tan 31 Rhagfyr 2026. Cynigir yr ail ddosau yng Nghymru tan 31 Mawrth 2027.
Os cawsoch eich geni rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael y brechlyn. Bydd hyn mewn lleoliad yn agos atoch chi, fel clinig yn eich bwrdd iechyd lleol.
Os cawsoch eich geni ar neu ar ôl 21/7/2001 ac rydych i fod i fynd i brifysgol neu addysg bellach breswyl am y tro cyntafyr hydref hwn, ni chewch lythyr. Bydd angen i chi drefnu apwyntiad a gwirio eich bod yn gymwys i gael brechiad. Gallai tystiolaeth o hyn fod ar ffurf e-bost swyddogol, llythyr, neu sgrin lun. Dylai gadarnhau eich bod chi wedi cael cynnig i fynd i’r brifysgol neu leoliad addysg bellach preswyl am y tro cyntaf.
Mae manylion cyswllt tîm brechu eich bwrdd iechyd lleol i’w gweld ar dudalen cysylltiadau brechu.
Byddwch yn cael gwybodaeth am ble a phryd i fynd.
Mae’r rhaglen frechu MenB hon dros gyfnod cyfyngedig. Mae’n ofynnol i bobl ifanc fod wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn erbyn 31 Rhagfyr 2026, a rhaid cael ail ddos o’r brechlyn erbyn 31 Mawrth 2027.
Beth os byddaf yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?
Nid yw annwyd na mân salwch arall yn rheswm dros ohirio cael eich brechlyn.
Os ydych chi yn sâl gyda thymheredd uchel (twymyn) uwchlaw 38.5C, mae’n well aros nes eich bod chi wedi gwella cyn cael y brechlyn. Fodd bynnag, dylech chi geisio cael y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os na allwch chi ddod i’ch apwyntiad brechu, dylech chi ganslo ac aildrefnu’r apwyntiad.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad i chi.
Beth os byddaf yn colli’r apwyntiad?
Os byddwch yn colli’r apwyntiad, dylech ei aildrefnu cyn gynted â phosibl.
Oes angen y brechlyn arnaf os ydw i wedi cael brechlyn MenB o’r blaen?
Os ydych chi wedi cael cwrs llawn (dau ddos neu fwy) o frechlynnau MenB o fewn y 5 mlynedd diwethaf, yna nid oes angen dosau pellach.
Pa mor fuan y byddaf yn cael fy amddiffyn?
Mae’n cymryd o leiaf pythefnos ar ôl eich ail ddos o’r brechlyn i’ch corff gynhyrchu gwrthgyrff i roi lefel dda o amddiffyniad i chi.
Oes amser delfrydol i mi gael fy ail ddos? Os felly, pryd?
Argymhellir cael yr ail ddos o’r brechlyn MenB o leiaf 4 wythnos (28 diwrnod) ar ôl y dos cyntaf i roi’r amddiffyniad gorau i chi rhag haint MenB. Mae’n cymryd o leiaf pythefnos o’r ail ddos o’r brechlyn i’ch corff gyrraedd lefel dda o amddiffyniad, felly mae gohirio’r ail ddos yn oedi’r amddiffyniad. Dylai’r rhai sy’n gymwys geisio cael y ddau ddos cyn dechrau yn y coleg neu’r brifysgol yr hydref hwn.
Oes angen i mi gael y ddau ddos i gael amddiffyniad?
Oes. Bydd angen i chi gael y ddau ddos o’r brechlyn, 4 wythnos ar wahân ac yna aros am bythefnos i gael yr amddiffyniad gorau. Mae’r brechlyn MenB wedi’i brofi’n drylwyr ac mae’n bodloni meini prawf diogelwch llym. Mae wedi cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yn y rhaglen brechu i fabanod yn y DU ers 2015 ac mae wedi arwain at ostyngiad o 75% mewn clefyd MenB mewn grwpiau sydd wedi’u brechu.
Byddwch yn cael cerdyn cofnod i gofnodi pryd y byddwch yn cael y dos cyntaf a phryd y bydd angen i chi gael yr ail ddos.
A allaf i ddal clefyd meningococol hyd yn oed os ydw i wedi cael fy mrechu?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal clefyd meningococol o facteria meningococol. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, ac nid yw’r brechlyn MenB yn eich amddiffyn rhag pob grŵp meningococol. Mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau clefyd meningococol, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am glefyd meningococol, ewch i:
Beth os ydw i’n poeni am nodwyddau?
Mae rhai pobl yn bryderus am nodwyddau a gall cael pigiad wneud iddynt deimlo’u bod yn cael eu llethu. Mae llawer o bobl ifanc yn dweud nad ydynt yn teimlo’r nodwydd o gwbl, a’i fod drosodd yn gyflym iawn. Os ydych chi’n poeni, mae sawl peth y gallwch ei wneud i deimlo’n llai pryderus.
- Siaradwch am eich ofnau
Dywedwch wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi eich bod yn nerfus. Bydd yn eich cefnogi ac yn eich helpu i deimlo’n fwy cyfforddus. - Ymlaciwch
Anadlwch yn ddwfn i’ch helpu i ymdawelu a bydd eich corff yn ymlacio. Bydd yn cymryd rhai eiliadau’n unig i gael pigiad a bydd drosodd cyn i chi sylweddoli. - Meddyliwch am ffordd o dynnu eich sylw oddi wrth y pigiad
Peidiwch ag edrych ar yr hyn sy’n digwydd na rhoi eich holl sylw iddo. Gwrandewch ar gerddoriaeth, gwyliwch fideo, neu sgwrsiwch â rhywun gerllaw i dynnu eich sylw oddi wrtho.
Canmolwch eich hun am fod yn ddewr ac am oresgyn eich pryderon! Er y gallech ei chael hi’n anodd ar adeg cael y brechiad, brechlynnau yw un o’r ffyrdd gorau y gallwch amddiffyn eich hun rhag clefyd meningococol.
Beth am gydsynio?
Mae cydsynio yn golygu eich bod chi’n rhoi caniatâd i rywbeth ddigwydd. Gofynnir i chi roi eich cydsyniad cyn i chi gael eich brechlyn. Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gydsyniad bapur neu ddigidol. Bydd yr unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn i chi bob amser yn gwirio eich bod wedi rhoi’r cydsyniad sydd ei angen yn gyntaf.
Bydd gennych amser i ystyried yr wybodaeth a anfonwyd atoch ynglŷn â’r brechlyn.
Bydd y person sy’n rhoi’r brechiad i chi yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Ydy’r brechlyn yn ddiogel?
Ydy, mae brechlyn MenB yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Pan fydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, caiff ei ddiogelwch ei fonitro’n agos.
Ni all brechlyn MenB achosi na lledaenu clefyd meningococol.
A oes unrhyw resymau pam na ddylwn i gael fy mrechu?
Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb gael problemau.
Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:
- dos blaenorol o’r un brechlyn, neu
- gynhwysyn yn y brechlyn.
Dywedwch wrth yr unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.
Beth yw sgil-effeithiau cyffredin brechlyn MenB?
Fel yn achos pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn rhai ysgafn, a byddan nhw’n gwella ar ôl diwrnod neu ddau fel arfer. Mae’n dal yn bwysig cael y ddau ddos. Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- rhywfaint o chwydd, cochni neu dynerwch lle rydych chi wedi cael y pigiad
- twymyn ysgafn
- cyfog
- pen tost/cur pen
- poenau yn y cyhyrau a’r cymalau
Os oes gennych dwymyn ac rydych yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad, gallwch gymryd meddyginiaethau dros y cownter fel parasetamol. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel neu’r pecyn yn ofalus a chymerwch y dos cywir ar gyfer eich oedran.
Ni argymhellir eich bod yn cymryd y meddyginiaethau hyn cyn nac ar ôl y brechiad dim ond oherwydd eich bod yn meddwl y gallech chi gael twymyn.
Os oes gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch chi ofyn i’r unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn i chi.
Darllenwch y daflen wybodaeth am y cynnyrch i gael rhagor o fanylion am eich brechlyn, gan gynnwys sgil-effeithiau posibl.
Os byddwch chi’n profi unrhyw sgil-effeithiau a amheuir yn sgil y brechlyn, gallwch chi roi gwybod am y rhain ar wefan Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy ffonio 0800 731 6789 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu drwy lawrlwytho yr ap Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig).
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?
Os ydych chi’n sâl ar ôl y brechiad ac rydych chi’n poeni, dylech chi siarad â’r unigolyn a roddodd y brechlyn i chi neu â’ch practis meddygon teulu.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael y brechiad. Gall hyn achosi anawsterau anadlu a pheri i bobl lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o anghyffredin, ac maen nhw’n effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae’r staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Mae modd trin pobl sy’n cael adwaith anaffylactig yn llwyddiannus. Fel arfer, maen nhw’n gwella cyn pen ychydig oriau.
Ydy’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad llwyr i mi rhag pob math o glefyd Meningococol?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal clefyd meningococol o facteria meningococol. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, ac nid yw’r brechlyn MenB yn eich amddiffyn rhag pob grŵp meningococol.
Efallai bod hwn yn gyfle i wirio eich bod wedi cael y brechlyn MenACWY (fel arfer yn 13–14 oed) sy’n cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag mathau eraill o glefyd meningococol.
Er bod y brechiad MenB yn hynod effeithiol ac wedi arwain at ostyngiad o 75% mewn clefyd MenB mewn grwpiau sydd wedi’u brechu, nid yw’n cynnig amddiffyniad llwyr. Ystyrir bod pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc mewn mwy o berygl, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau clefyd Men B. Mae arwyddion i gadw golwg amdanynt yn cynnwys cur pen, chwydu, dolur rhydd, poen yn y cyhyrau, crampiau stumog a thwymyn gyda dwylo a thraed oer.
Darllenwch ragor o wybodaeth am lid yr ymennydd a chlefyd meningococol.
Oes brechiadau eraill y dylwn eu cael nawr?
Dylech fod eisoes wedi derbyn brechlyn MenACWY (fel arfer yn 13-14 oed) sy’n cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag mathau eraill o glefyd meningococol. Mae cael y brechiadau diweddaraf yn bwysig i bob un ohonom, ond hyd yn oed yn fwy felly i fyfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol a’r coleg a fydd yn cyfarfod, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd.
Gall prifysgolion a cholegau fod yn gyfle perffaith i heintiau fel y frech goch, clwy’r pennau, llid yr ymennydd, yn ogystal â salwch anadlol fel y ffliw ledaenu.
Yn eich apwyntiad brechu MenB, efallai y cewch gynnig brechlynnau yr ydych wedi’u methu o’r blaen. Gellir rhoi brechlyn MenB ar yr un pryd â brechlynnau eraill, fel MenACWY, HPV ac MMR.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi methu unrhyw frechiadau, gallwch gysylltu â’ch practis meddyg teulu i wirio eich statws brechu a dal i fyny ag unrhyw frechiadau eraill a fethwyd. Fel arall, gallwch gysylltu â’ch tîm imiwneiddio lleol i ddarganfod sut i ddal i fyny â brechlynnau a gollwyd.
Mae’r manylion cyswllt i’w cael ar dudalen cysylltiadau brechu.