Brechlyn meningococol grŵp B (MenB)
Mae cyhoeddiad gweinidogol wedi cael ei wneud am gynnig brechu cyfnod penodol. Mae hyn ar gyfer brechiad Grŵp B Meningococol (MenB).
Rydym yn aros am y polisi terfynol yng Nghymru ar bwy sy’n gymwys a sut y bydd y brechiad yn cael ei gynnig. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir.
Babanod a phlant ifanc
Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol.
Pobl ifanc
Bydd y brechiad MenB yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008. Mae’r brechlyn hefyd ar gael i’r rhai sy’n troi’n 25 oed ar ôl 31/12/2026 a fydd yn mynychu Addysg Uwch neu Addysg Bellach Breswyl am y tro cyntaf o Hydref 2026. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol a’r rhai o Weinyddiaethau Datganoledig y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.
Gonoroea
Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Yng Nghymru, mae’r GIG yn cynnig y brechlyn fesul achos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM).
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn