Neidio i'r cynnwys

Brechlyn MenB ar gyfer pobl ifanc – gwybodaeth i weithwyr iechyd

Ynglŷn â’r brechlyn MenB i bobl ifanc a myfyrwyr.

Gweler brechlyn MenACWY i gael gwybodaeth am y brechlyn Meningococol i bobl ifanc yn eu harddegau.

Gweler Brechu yn erbyn meningococol grŵp B (MenB) mewn babanod a phlant ifanc i gael gwybodaeth am y brechlyn Meningococol i fabanod a phlant ifanc.

Gweler Brechiadau i fyfyrwyr i gael gwybodaeth am frechiadau i fyfyrwyr.

Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac mae’n bosibl na fydd y cynnwys hwnnw ar gael yn Gymraeg.

Cefndir

Mae clefyd meningococol ymledol (IMD) yn glefyd hysbysadwy. Mae’n haint bacteriol sy’n gwaethygu’n gyflym a achosir gan Neisseria meningitidis. Lledaenir yr organeb gan ddefnynnau anadlol ac mae ganddi gyfnod magu rhwng dau a saith diwrnod. Mae clefyd meningococol ymledol fel arfer yn ymddangos fel llid yr ymennydd (acíwt) neu sepsis, neu gyfuniad o’r ddau.

Mae clefyd meningococol yn digwydd amlaf mewn babanod o dan flwydd oed, gyda’r cyfraddau’n gostwng wrth i blant fynd yn hŷn. Gwelir cynnydd llai mewn achosion hefyd ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed.

Mae clefyd meningococol yn angheuol mewn 5% i 10% o achosion. Gall y rhai sy’n goroesi brofi cymhlethdodau hirdymor difrifol fel colli clyw, amhariad difrifol ar y golwg, problemau cyfathrebu, colli aelod(au) o’r corff, ffitiau, a niwed i’r ymennydd.

Mae meningococi yn cael eu grwpio i wahanol fathau (serogrwpiau) yn seiliedig ar farcwyr ar du allan y bacteria (polysacarid capsiwlaidd). Yn y DU, y serogrwpiau o’r pwysigrwydd clinigol ac iechyd y cyhoedd mwyaf yw B, C, W ac Y.

Ers cyflwyno rhaglen MenB y DU yn 2015 a rhaglen MenACWY i bobl ifanc yn 2015, mae digwyddedd IMD wedi gostwng yn sylweddol, er bod achosion yn parhau i ddigwydd ar draws pob grŵp oedran.

Mae’r brechlyn MenB i fabanod wedi lleihau clefyd MenB tua thri chwarter ymhlith y plant a’i derbyniodd, o’i gymharu â phlant na chawsant eu brechu. Mae clefyd MenB wedi cynyddu ers i gyswllt cymdeithasol ddychwelyd i normal ar ôl y pandemig COVID-19 ac mae nifer y bobl sy’n cael eu brechu wedi gostwng, gan adael mwy o bobl heb amddiffyniad. Yn wahanol i straeniau meningococol eraill, nid yw brechlynnau MenB yn creu imiwnedd torfol cryf, felly mae brechu amserol yn bwysig er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf yn cael eu hamddiffyn rhag clefyd MenB.

Lansiwyd ymateb brechu MenB brys ledled y DU, fel mesur rhagofalus, yn dilyn nifer o frigiadau o achosion o glefyd Meningococol Grŵp B (MenB) yn Lloegr ddechrau 2026. Nod y rhaglen yw amddiffyn y bobl ifanc sy’n wynebu’r risg uniongyrchol mwyaf eleni.

Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl ifanc a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008 (17/18 oed)
  • unrhyw un a aned ar neu ar ôl 21/07/2001 (sy’n troi’n 25 ar neu ar ôl 21/07/2026) a fydd yn dechrau cwrs addysg uwch israddedig neu’n dechrau astudio mewn rhai lleoliadau addysg bellach preswyl am y tro cyntaf yn hydref 2026.

Cynnig am gyfnod cyfyngedig yw hwn, yn dechrau ar 20 Gorffennaf 2026. O ystyried bod angen dau ddos o’r brechlyn Bexsero® (4CMenB) o leiaf 28 diwrnod ar wahân i gael amddiffyniad, mae’n bwysig ein bod yn dechrau cynnig y brechlyn cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwn, gyda’r nod o sicrhau amddiffyniad i’r unigolion uchod cyn dechrau blwyddyn academaidd 2026/2027, a’r tymor brig ar gyfer MenB yn yr hydref.

Mae rhagor o fanylion yn cynnwys gwybodaeth gefndirol a chlinigol ar gael yn y WHC.

Y brechlyn

Bexsero®, brechlyn protein Meningococol B (4CMenB) pedair cydran yw’r brechlyn sy’n cael ei argymell.

Mae Bexsero® yn frechlyn sy’n dod ar ffurf chwistrell wedi’i lenwi ymlaen llaw. Mae Bexsero yn frechlyn cydran rDNA wedi’i arsugno.  Defnyddir y brechlyn hwn yn rheolaidd yn yr amserlen brechu babanod ac fe’i cyflwynir mewn pecynnau o 10. Mae’r brechlyn MenB yn effeithiol yn erbyn heintiau difrifol a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Gall y brechlyn hefyd amddiffyn rhag haint gan grwpiau capsiwlaidd heblaw grŵp B.

Mae angen dau ddos i gael amddiffyniad. Dylid gwneud apwyntiadau ar gyfer eu hail ddos pan fydd unigolion yn dod i gael eu dos cyntaf.

Rhaid rhoi’r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl y dos cyntaf a dylid atgoffa unigolion o bwysigrwydd dychwelyd i gael yr ail ddos.

Mae’n bwysig rhoi cerdyn cofnod brechu i’r unigolyn er mwyn sicrhau ei fod yn gwybod pryd i ddod i gael ei ail ddos – bydd hyn hefyd yn brawf ei fod wedi cael y dos cyntaf os bydd angen iddo gael yr ail ddos mewn gwlad arall.

Gweinyddu Brechlynnau

Mae Bexsero® yn cael ei roi trwy bigiad i mewn i gyhyr deltoid y fraich uchaf.

Gellir rhoi brechlynnau meningococol ar yr un pryd ag unrhyw frechlynnau eraill sydd eu hangen, ond dylid eu rhoi mewn man ar wahân, yn ddelfrydol mewn aelod gwahanol. Cyfeiriwch at y Bennod Meningococol yn Imiwneiddio yn erbyn Clefydau Heintus (y Llyfr Gwyrdd) (safle allanol, Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth.

Dyddiadau dechrau a gorffen y rhaglen

Bydd y rhaglen yn rhedeg o 20 Gorffennaf 2026, gyda’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch brechu i fod wedi’i gwblhau erbyn mis Medi 2026, er mwyn sicrhau bod y cwrs dau ddos wedi’i gwblhau cyn dechrau blwyddyn academaidd 2026/27.

Rhaid i’r dosau cyntaf barhau i fod ar gael tan 31 Rhagfyr 2026 a’r ail ddosau barhau i fod ar gael tan 31 Mawrth 2027, er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n dechrau eu cyrsiau’n hwyr neu sy’n cyrraedd y DU ar ôl misoedd yr haf, i gael y cynnig o ddau ddos.

Crynodeb o nodweddion y cynnyrch (SmPC)

Mae’r atodlen canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd – Meningococol (safle allanol, Saesneg yn unig) yn disodli’r crynodeb o nodweddion y cynnyrch.

Nid yw canllawiau clinigol manwl ar gyfer y rhaglen â chyfyngiad amser wedi’u cynnwys yn y Llyfr Gwyrdd. Mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 o WHC (2026) 26 (safle allanol).

Adrodd am adweithiau niweidiol a amheuir

Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n galluogi’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol i gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Cerdyn Melyn (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a’r rhai nad ydynt yn rheolaidd.

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Rhaglen frechu rhag Meningococol B (MenB): ymateb brys am gyfnod cyfyngedig yn sgil brigiadau diweddar o achosion (WHC/2026/026) (safle allanol)

‘Manyleb Gwasanaeth Cenedlaethol Ychwanegol ar gyfer brechu oedolion a phlant mewn perygl, y tu allan i’r rhaglen imiwneiddio arferol’ (safle allanol, Saesneg yn unig). Er nad oes cynlluniau i ofal sylfaenol fod yn rhan o gyflwyno’r rhaglen hon, bydd y fanyleb yn berthnasol, os bydd sefyllfa’n codi pan fod angen i bractisiau meddygon teulu roi brechlynnau Meningococol i unigolion cymwys sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen frechu â chyfyngiad amser mewn ymateb i frigiadau o achosion.

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Gwybodaeth am gynnig dosau pellach os rhoddwyd brechlyn/brechlynnau MenB o’r blaen.
Senario  Canlyniad  Diffiniad 
1 dos o Bexsero (ni waeth beth fo amseriad y dos hwnnw)  1 dos o Bexsero nawr  Pan fo unigolion wedi cael un dos blaenorol o Bexsero®, dylid rhoi dos pellach, o leiaf 28 diwrnod ar ôl y dos cyntaf, i gwblhau’r cwrs llawn o 2 ddos ​​o Bexsero®. 
2 ddos ​​o Bexsero <5 mlynedd yn ôl  Dim angen gwneud dim nawr  Pan fo unigolion wedi cwblhau cwrs dau ddos ​​o Bexsero® yn y 5 mlynedd diwethaf, nid oes angen brechu pellach. 
2 ddos ​​o Bexsero >5 mlynedd yn ôl  1 dos o Bexsero nawr  Pan fo unigolion wedi cwblhau cwrs dau ddos ​​o Bexsero® dros 5 mlynedd yn ôl, dylid cynnig dos sengl iddynt. 
2/3 dos o Trumenba (cwrs llawn) >5 mlynedd yn ôl  Dechrau cwrs o Bexsero nawr (2 ddos)  Ystyrir dau ddos ​​o leiaf 6 mis ar wahân yr un fath â 3 dos.  

Nid yw brechlynnau MenB Trumenba® a Bexsero® yn gyfnewidiadwy. Pan fo unigolion wedi cwblhau cwrs o Trumenba® 5 mlynedd neu fwy yn ôl, dylid cynnig iddynt ailgychwyn cwrs dau ddos ​​gyda Bexsero®.
2/3 dos o Trumenba (cwrs llawn) <5 mlynedd yn ôl  Dim angen gwneud dim nawr  Pan fo unigolion wedi cwblhau cwrs o Trumenba® yn y 5 mlynedd diwethaf, nid oes angen brechu pellach. 

Ystyrir dau ddos ​​o leiaf 6 mis ar wahân yr un fath â 3 dos.  
1 dos o Trumenba, neu 2 ddos ​​wedi’u rhoi <6m ar wahân (cwrs rhannol)  Dechreuwch gwrs o Bexsero nawr, 2 ddos ​​(neu gall unigolion ddewis mynd yn breifat i orffen y cwrs o Trumenba)  Pan fo unigolion wedi cael cwrs rhannol o Trumenba® (a ddiffinnir fel un dos blaenorol, neu 2 ddos ​​a roddwyd llai na 6 mis ar wahân), gallant gwblhau’r cwrs brechu yn llawn. Neu, gellir cynnig cwrs dau ddos ​​o Bexsero iddyn nhw. 

Nid oes gwybodaeth benodol am y cyfnod gorau rhwng Trumenba® a Bexsero®; fodd bynnag, o egwyddorion sylfaenol, cynghorir cyfnod o 4 wythnos o leiaf. 

Gwybodaeth am gynnig dosau pellach os rhoddwyd brechlyn/brechlynnau MenB o’r blaen – adnodd i’w argraffu (UKHSA, 21 Gorffennaf 2026) (Saesneg yn unig)

Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau

Mae gan UKHSA dempledi Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) ar gael ar gyfer MenB fel adnodd cyfeirio i fyrddau iechyd eu datblygu a’u hawdurdodi i’w defnyddio’n lleol.

Mae templedi i’w gweld ar dudalen Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol, Saesneg yn unig).

Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth

Adnoddau i gefnogi’r rhaglen MenB ar gyfer Pobl Ifanc a Myfyrwyr

Negeseuon allweddol

Ydw i’n gymwys i gael y brechlyn MenB?

Bydd y brechiad MenB yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008.  

Mae’r brechlyn hefyd ar gael i’r rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (sy’n troi’n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy’n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol a’r rhai o Weinyddiaethau Datganoledig y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron. 

Ni fydd y brechlyn yn cael ei gynnig: 

  • i’r rhai a aned cyn 21/07/2001 
  • i’r rhai o dan 25 oed sy’n parhau â’u hastudiaethau (nid myfyrwyr sy’n dechrau am y tro cyntaf) 
  • i’r rhai mewn lleoliadau preswyl ar lefel ysgol, er enghraifft ysgolion preswyl chweched dosbarth, oni bai eu bod yn gymwys oherwydd eu hoedran 
  • i’r rhai a gwblhaodd gwrs 2 ddos o Bexsero® yn ystod y 5 mlynedd diwethaf 
  • i’r rhai a gwblhaodd gwrs 2 neu 3 dos o Trumenba® yn ystod y 5 mlynedd diwethaf 
Ble alla i gael y brechlyn MenB?

Bydd pobl ifanc 17 ac 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008 yn derbyn llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd. Anfonir llythyrau ar ôl 6 Gorffennaf. Ni fydd y rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (a fydd yn troi’n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy’n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026 yn derbyn llythyr ond dylent gysylltu â’u bwrdd iechyd ar ôl 20 Gorffennaf i ddarganfod ble i gael eu brechiad yn eu hardal leol.

 Gweler rhestr o fyrddau iechyd a’u manylion cyswllt.   

Peidiwch â chysylltu â’ch bwrdd iechyd cyn 20 Gorffennaf 2026 am na fydd yr wybodaeth bellach yn barod eto.

Os ydych chi o dan 25 oed ac yn mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn, bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o’ch llythyr cynnig gan y brifysgol neu’r coleg pan fyddwch chi’n cyrraedd eich apwyntiad.  

Pryd alla i ei gael?

Cynigir y dosau cyntaf yng Nghymru o 20 Gorffennaf tan 31 Rhagfyr 2026. Cynigir ail ddosau yng Nghymru tan 31 Mawrth 2027.  

Pa mor fuan y byddaf yn cael fy amddiffyn?

Mae’n cymryd o leiaf pythefnos ar ôl eich ail ddos ​​or brechlyn i’ch corff gynhyrchu gwrthgyrff i roi lefel dda o amddiffyniad i chi.

Ydy’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad llwyr i mi rhag pob math o glefyd Meningococol?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal clefyd meningococol o facteria meningococol. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, ac nid yw’r brechlyn MenB yn eich amddiffyn rhag pob grŵp meningococol.  

Efallai bod hwn yn gyfle i wirio eich bod wedi cael y brechlyn MenACWY (fel arfer yn 13-14 oed) sy’n cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag mathau eraill o glefyd meningococol.   

Er bod y brechiad MenB yn hynod effeithiol ac wedi arwain at 75% yn llai o achosion MenB mewn grwpiau sydd wedi’u brechu, nid yw’n cynnig amddiffyniad llwyr. Ystyrir bod pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc mewn mwy o berygl, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau clefyd Men B. Mae’r arwyddion i gadw golwg amdanynt yn cynnwys cur pen, chwydu, dolur rhydd, poen yn y cyhyrau, crampiau stumog a thwymyn gyda dwylo a thraed oer.  Am ragor o wybodaeth am lid yr ymennydd a chlefyd meningococol, ewch i dudalen Llid yr ymennydd a chlefyd meningococol.

Oes amser delfrydol i mi gael fy ail ddos? Os felly, pryd?

Argymhellir cael yr ail ddos ​​o’r brechlyn MenB o leiaf 4 wythnos (28 diwrnod) ar ôl y dos cyntaf i roi’r amddiffyniad gorau i chi rhag haint MenB. Mae’n cymryd o leiaf pythefnos o’r ail ddos ​​o’r brechlyn i’ch corff gyrraedd lefel dda o amddiffyniad, felly mae gohirio’r ail ddos ​​yn oedir amddiffyniad. Dylai’r rhai sy’n gymwys geisio cael y ddau ddos ​​cyn dechrau yn y coleg neu’r brifysgol yr hydref hwn. 

Oes angen i mi gael y ddau ddos ​​i gael fy amddiffyn?

Oes. Bydd angen i chi gael y ddau ddos ​​o’r brechlyn, 4 wythnos ar wahân ac yna aros am bythefnos i gael yr amddiffyniad gorau.  Mae’r brechlyn MenB wedi’i brofi’n drylwyr ac mae’n bodloni meini prawf diogelwch llym. Mae wedi cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yn y rhaglen brechu i fabanod yn y DU ers 2015 ac wedi arwain 75% yn llai o achosion MenB mewn grwpiau sydd wedi’u brechu. 

Beth yw sgil-effeithiau cyffredin brechlyn MenB?

Fel pob meddyginiaeth, gall y brechlyn MenB achosi sgil-effeithiau, ond nid yw pawb yn eu cael. Mae’n gyffredin cael rhywfaint o chwydd, cochni neu dynerwch lle rydych chi wedi cael y pigiad. Efallai y byddwch hefyd yn cael twymyn, cyfog, cur pen neu boenau yn y cyhyrau.  

Mae sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn ac yn para am gwpl o ddiwrnodau yn unig.  Mae’n dal yn bwysig i chi gael y ddau ddos.  

Mae sgil-effeithiau mwy difrifol yn brin. Gallwch gymryd meddyginiaeth at boen dros y cownter fel parasetamol i reoli’r symptomau hyn os oes angen. 

Os byddwch chi’n profi unrhyw sgil-effeithiau a amheuir yn sgil y brechlyn, gallwch chi roi gwybod am y rhain ar wefan Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy ffonio 0800 731 6789 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu drwy  lawrlwytho yr ap Yellow Card. 

Pam ydyn ni’n brechu pawb sy’n 17 a 18 oed (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn mynd i’r brifysgol)?

Mae pawb sy’n 17 ac 18 oed (blwyddyn ysgol 13 neu gyfwerth) yn cael eu cynnwys oherwydd bod y bobl ifanc hyn o fewn y grŵp oedran sydd ag un o’r cyfraddau uchaf o glefyd MenB y tu allan i fabandod. Mae’r grŵp oedran hwn yn fwyaf tebygol o fod yn dechrau prifysgol (neu addysg bellach breswyl) lle mae’r risg yn cynyddu ymhellach. Mae cynnig y brechlyn i bawb yn y grŵp oedran hwn yn ei gwneud hi’n haws cyrraedd pobl ifanc, gan sicrhau bod cynifer â phosibl yn cael eu diogelu ar y pwynt pan fydd eu risg yn uwch. 

Pam nad yw myfyrwyr yn eu 2il neu 3ydd flwyddyn o brifysgol yn cael eu brechu?

Nid yw myfyrwyr ym mlynyddoedd diweddarach y brifysgol yn cael eu cynnwys oherwydd nad ydynt yn cyrchu addysg uwch am y tro cyntaf, sef dyna pryd mae’r risg ar ei huchaf. Mae tystiolaeth yn dangos bod gan fyfyrwyr blwyddyn gyntaf risg uwch o lawer – tua saith gwaith yn fwy na phobl ifanc o’r un oed nad ydynt yn y brifysgol. Mae’r risg yn arbennig o uchel pan fydd pobl newydd yn dod at ei gilydd i gymysgu a byw’n agos, fel mewn neuaddau preswyl. Nid yw’r risg yn cael ei ystyried mor uchel i’r rhai yn eu hail flwyddyn neu flynyddoedd dilynol, felly nid ydynt yn cael eu hystyried yn rhan o’r grŵp risg uchaf ar gyfer y rhaglen wedi’i thargedu hon. 

Rwy’n byw yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon ond byddaf yn dechrau fy astudiaethau mewn prifysgol yng Nghymru yr Hydref hwn. A fyddaf yn gymwys i gael y brechlyn MenB?

Os ydych chi’n byw yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn mynd i’r brifysgol yng Nghymru, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael y brechlyn MenB. Byddwch yn gymwys i gael y brechiad os byddwch yn dod o dan y naill neu’r llall o’r grwpiau canlynol: 

  • Unigoliona anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008 
  • Unigoliona anwyd ar neu ar ôl 21/07/2001 (yn troi’n 25 oed ar neu ar ôl 21/07//2026) ac sy’n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o Hydref 2026 

Ar gyfer yr amddiffyniad gorau, mae angen dau ddos o’r brechlyn MenB. Dylid rhoi’r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl y cyntaf, yn ddelfrydol o leiaf bythefnos cyn dechrau’r brifysgol. 

Byddwch yn cael cerdyn cofnod brechu yn eich apwyntiad cyntaf. Bydd yn dangos y dyddiad y cawsoch eich dos cyntaf a phryd y bydd y dylech chi gael eich dos nesaf. 

Os ydych chi’n derbyn eich dos cyntaf yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch barhau i gael eich ail frechiad yng Nghymru. Bydd angen i chi ddod â’ch cerdyn cofnod brechu gyda chi i ddangos bod angen i chi dderbyn eich ail ddos. 

Yng Nghymru, mae’r brechlyn MenB i fyfyrwyr yn cael ei ddarparu trwy glinigau cymunedol. Gweler yma am y rhestr o Fyrddau Iechyd a manylion cyswllt: Cysylltiadau brechu – Iechyd Cyhoeddus Cymru Gallwch hefyd siarad â’ch practis meddyg teulu lleol neu ganolfan iechyd prifysgol, a all roi cyngor i chi ynghylch ble i gael y brechlyn. Bydd dosau cyntaf yn cael eu cynnig yng Nghymru rhwng 20 Gorffennaf a 31 Rhagfyr 2026. Bydd ail ddosau yn cael eu cynnig yng Nghymru tan 31 Mawrth 2027. 

Rwy’n byw yng Nghymru ac wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn MenB. Beth sy’n digwydd gyda fy ail ddos os ydw i’n dechrau fy astudiaethau yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon?

Mae’n bwysig i chi dderbyn dau ddos o’r brechlyn o leiaf 28 diwrnod ar wahân ar gyfer yr amddiffyniad gorau. Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r cwrs dau ddos llawn o leiaf bythefnos cyn dechrau addysg bellach breswyl neu yn y brifysgol. 

Os cawsoch eich dos cyntaf o’r brechlyn MenB yng Nghymru, byddwch yn cael cerdyn cofnod brechu. Cadwch hwn yn ddiogel ac ewch ag ef gyda chi pan fyddwch chi’n mynd i’ch apwyntiad ar gyfer yr ail ddos. 

Os ydych chi’n astudio yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn dymuno derbyn eich ail ddos yno, ewch i’r wefan berthnasol am ragor o fanylion:

Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy’r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddiant.

Data a gwyliadwriaeth

Mae gwybodaeth am frechu a goruchwylio clefydau ar gael ar y tudalennau isod: