Neidio i'r cynnwys

Brechu yn erbyn meningococol grŵp B (MenB) mewn babanod a phlant ifanc - Ynglŷn â'r brechlyn MenB ar gyfer babanod a phlant ifanc

Cefndir

“Gall clefyd meningococol achosi llid yr ymennydd (chwydd yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a sepsis (sef adwaith sy’n peryglu bywyd i haint a all niweidio eich corff cyfan). Mae llid yr ymennydd a sepsis yn glefydau sy’n bygwth bywyd.“

Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol. Cynigir brechlyn gwahanol i bobl ifanc yn eu harddegau, o’r enw MenACWY, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau A, C, W ac Y. 

Talfyriad o ‘facteria meningococol grŵp B’ yw MenB. Mae MenB yn un o sawl math o facteria meningococol. Mae’r mathau mwyaf cyffredin eraill yn cynnwys W, Y ac C. 

Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol. Cynigir brechlyn gwahanol i bobl ifanc yn eu harddegau, o’r enw MenACWY, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau A, C, W ac Y.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Brechiadau rheolaidd i fabanod

Fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd yng Nghymru, cynigir y brechlyn MenB i fabanod pan fyddant yn:

  • wyth wythnos oed  
  • 12 wythnos oed (gweler isod); ac yn  
  • 12 mis oed.  

Anfonir apwyntiadau at blant ar gyfer eu brechiad MenB. Mae’r rhan fwyaf o bractisiau meddygon teulu a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau brechu arbennig neu glinigau babanod. 

Mae angen y tri dos o’r brechlyn MenB ar fabanod er mwyn cael eu hamddiffyn yn llawn.

I gael gwybodaeth am yr amserlenni imiwneiddio rheolaidd ar gyfer Cymru, gweler:

Amserlenni imiwneiddio rheolaidd ar gyfer Cymru 

A yw’n ddiogel i’m babi gael y brechlyn MenB gyda brechiadau eraill?

Os yw eich plentyn o dan ddwy oed ac wedi methu ei frechiad MenB, mae dal modd iddo gael y brechlyn. Mae’n bwysig i’ch plentyn gael y brechlyn MenB i helpu i’w amddiffyn rhag salwch difrifol.

Nid yw’r brechlyn MenB yn cael ei gynnig i blant dros ddwy oed drwy’r GIG fel arfer.  

Mae hyn yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Grŵp o arbenigwyr yw’r JCVI sy’n adolygu tystiolaeth am frechlynnau. Maen nhw’n cynghori llywodraeth y DU ynghylch pa frechlynnau a ddylai gael eu rhoi a phryd. 

Yng Nghymru, ceir amserlen brechu rheolaidd sy’n dilyn y cyngor hwn. Gallwch chi weld yr amserlen yn: 

Amserlen imiwneiddio rheolaidd ar gyfer Cymru 

Fodd bynnag, mae modd cynnig y brechlyn am ddim ar y GIG i rai pobl dros ddwy oed, sydd wedi’u nodi fel y rhai sydd mewn mwy o berygl. I gael rhagor o wybodaeth, mynnwch air â thîm arbenigol eich plentyn, neu eich practis meddygon teulu.
Os yw eich plentyn dros ddwy flwydd oed, efallai y bydd y brechlyn MenB ar gael yn breifat. Gallai hyn fod mewn rhai practisiau meddygon teulu preifat, fferyllfeydd, neu glinigau brechu ar gyfer teithio.

Galwad i weithredu: 

Mae’n bwysig sicrhau bod eich baban wedi cael ei holl frechiadau rheolaidd, oherwydd gall llid yr ymennydd fod yn un o gymhlethdodau difrifol rhai clefydau.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechiadau a argymhellir i blant, ewch i:

Amserlenni imiwneiddio rheolaidd ar gyfer Cymru – Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Wrth i blant fynd yn hŷn, mae’n dal yn bwysig eu bod yn cael eu brechu ar yr adeg iawn. Dylai pobl ifanc yn eu harddegau sicrhau eu bod yn cael cynnig y brechlyn MenACWY. Nid yw’r brechlyn hwn yn amddiffyn rhag MenB. Fodd bynnag, mae’n amddiffyn rhag mathau difrifol eraill o glefyd meningococol ac yn helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel.

I gael gwybodaeth am y brechlyn MenACWY, ewch i Brechlyn MenACWY – Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mynnwch air â’ch meddyg teulu neu nyrs y practis i gael cyngor:

  • os yw’ch plentyn o dan ddwy oed ac wedi colli unrhyw ddosau, neu
  • mae eich plentyn mewn grŵp sydd mewn perygl.
Brechiadau nad ydynt yn rhai rheolaidd
Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu’r risg o gael heintiau difrifol. Efallai y bydd angen y brechlyn MenB ar bobl sydd â’r cyflyrau hyn. Mae’r cyflyrau’n cynnwys:
  • dim dueg neu ddueg nad yw’n gweithio’n dda iawn (gan gynnwys o ganlyniad i glefyd y crymangelloedd a chlefyd seliag), a
  • phroblemau gyda’r system imiwnedd (anhwylderau cyflenwol).
Alergeddau

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i fabanod sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn.

Mynnwch air â’r unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn os yw eich baban wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Gallwch gysylltu â’ch practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau am y brechlyn MenB, neu os nad ydych yn siŵr pryd y dylai eich baban neu blentyn ei gael.

Ynglŷn âr brechlyn 

Fel arfer, bydd babanod yn cael y brechlyn MenB trwy bigiad yn rhan uchaf eu coes (clun). Fel arfer, bydd plant hŷn ac oedolion yn ei gael trwy bigiad yn rhan uchaf eu braich.

Y brechlyn MenB, o’r enw Bexsero (Saeneg yn unig), yw’r unig frechlyn sy’n cael ei gynnig ar amserlen imiwneiddio’r GIG yng Nghymru sy’n helpu i amddiffyn rhag bacteria meningococol grŵp B.

Diogelwch ac effeithiolrwydd 

A oes gan y brechlyn MenB unrhyw sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael.

Sgil-effaith mwyaf cyffredin y brechlyn yw twymyn (tymheredd uchel – uwch na 38˚C). Dylech roi’r dos cywir o hylif paracetamol i’ch baban i helpu i leihau’r risg y bydd yn cael twymyn.

Mae sgil-effeithiau cyffredin eraill yn cynnwys:

  • ychydig o gochni a dolur yn y fan lle rhoddwyd y brechlyn
  • teimlo’n bigog
  • brech
  • crio anarferol
  • teimlo’n gysglyd
  • diffyg archwaeth neu deimlo’n sâl
  • dolur rhydd, a
  • chur pen/pen tost.

Argymhellir rhoi hylif paracetamol i fabanod i atal twymyn ar ôl iddynt gael eu brechu. Bydd y nyrs yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am paracetamol yn ystod eich apwyntiad brechu.

Mae’n syniad da sicrhau bod rhywfaint o hylif paracetamol ar gyfer babanod gennych chi gartref cyn yr apwyntiad brechu pan fydd eich baban yn ddeufis oed. Gallwch chi ei brynu mewn fferyllfeydd neu archfarchnadoedd lleol. Peidiwch byth â rhoi’r hylif paracetamol ac iddo gryfder uwch ar gyfer plant hŷn i fabanod. Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i faban.

Gweler y cwestiynau cyffredin isod i gael rhagor o wybodaeth am hylif paracetamol i fabanod. 

Mae adweithiau eraill yn anghyffredin. I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin ac anghyffredin, gweler:

Cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 os ydych chi’n poeni am symptomau. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech chi roi gwybod am sgil-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig) neu drwy ffonio llinell gymorth y cynllun Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

A yw’n ddiogel i’m babi gael y brechlyn MenB gyda brechiadau eraill?

Mae astudiaethau’n dangos ei bod hi’n ddiogel rhoi’r brechlyn MenB ar yr un pryd â brechlynnau rheolaidd eraill. Mae hyn yn golygu bod modd amddiffyn eich baban rhag heintiau difrifol ar unwaith.

Brechiad MenB – Pryd dylwn i roi paracetamol i fy maban ar ôl iddo gael ei frechu?

Gallai eich baban gael twymyn ar ôl unrhyw frechiad, ond mae’n fwy cyffredin pan roddir y brechlyn MenB gyda’r brechiadau rheolaidd eraill ar gyfer babanod. Bydd rhoi paracetamol i’ch baban yn fuan ar ôl iddo gael ei frechiad a pheidio ag aros i dwymyn ddatblygu yn lleihau’r risg o ddatblygu twymyn.

Rhowch y dos cyntaf o paracetamol cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch baban gael ei frechiad. Rhowch hylif paracetamol ac iddo gryfder addas ar gyfer babanod (120mg/5ml) yn unig. Ar gyfer babanod cynamserol iawn (a aned cyn 32 wythnos), dylai meddyg roi paracetamol ar bresgripsiwn iddynt.

Dosau paracetamol ar ôl y ddau frechiad MenB cyntaf 

Rhowch hanner llwy de (2.5ml) trwy ddefnyddio’r llwy neu’r chwistrell a ddarperir gyda’r feddyginiaeth i fabanod rhwng wyth wythnos a chwe mis oed.

Oed y babn Fel arfer yn 8 wythnos hyd at 6 mis oed
Dos 1 Un dos 2.5ml (60mg) cyn gynted â phosibl ar ôl y brechiad.
Dos 2 Un dos 2.5ml (60mg) 4 i 6 awr ar ôl y dos cyntaf.
Dos 3 Un dos 2.5ml (60mg) 4 i 6 awr ar ôl yr ail ddos.

Dilynwch yr amserlen hon ar ôl y ddau frechiad MenB cyntaf.

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol ar ôl i’ch baban gael y brechlyn MenB. Os bydd twymyn ar eich baban ar unrhyw adeg arall, dylech chi ddilyn y cyfarwyddiadau a’r cyngor am y dos a roddir ar y pecyn cynnyrch a’r daflen wybodaeth i gleifion.

Gwnewch yn siŵr fod gennych paracetamol ac iddo gryfder addas ar gyfer babanod gartref cyn apwyntiad brechu cyntaf eich baban. Gallwch chi ei brynu mewn fferyllfa neu archfarchnad.

Peidiwch â rhoi’r dos cyntaf cyn eich apwyntiad brechu. Mae angen i’r nyrs wirio am arwyddion o haint sydd eisoes yn bodoli, a allai olygu bod angen gohirio’r brechiad.

Beth os bydd gan fy maban dwymyn o hyd ar ôl cael y tri dos o paracetamol?
  • Efallai y bydd rhai babanod yn dal i gael twymyn ar ôl eu brechiad, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael tri dos o paracetamol.
  • Yn ystod y 48 awr ar ôl cael y brechiad, os bydd gan eich baban dwymyn o hyd a’i fod yn iach fel arall, gallwch barhau i roi’r un dos o 2.5 ml (60mg) o baracetamol hylif cryfder addas i fabanod (120mg/5ml) iddo.
  • Arhoswch o leiaf bedair awr rhwng dosau bob amser a pheidiwch byth â rhoi mwy na phedwar dos mewn 24 awr.
  • Cadwch eich baban yn lled oer drwy wneud yn siŵr nad oes ganddo ormod o haenau o ddillad neu flancedi a rhowch ddigon o hylifau iddo. Os yw eich baban yn cael ei fwydo ar y fron, llaeth y fron yw’r hylif gorau i’w roi iddo.

Os bydd gan eich baban dwymyn 48 awr ar ôl cael y brechiad, neu os ydych yn pryderu am iechyd eich baban ar unrhyw adeg:

  • gwrandewch ar eich greddf a siaradwch â’ch meddyg teulu, neu
  • cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.
A oes angen paracetamol ar fy maban ar ôl pob brechiad MenB?

Bydd angen paracetamol ar eich baban ar ôl brechiadau MenB a roddir  pan fydd dan 12 mis oed.

Fodd bynnag, nid oes angen paracetamol fel mater o drefn ar ôl y brechlyn MenB a roddir ar ôl iddo fod yn 12 mis oed. Mae hyn oherwydd y bydd llai o risg o gael twymyn erbyn iddo gyrraedd yr oedran hwn.

Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i blant dan 16 oed. 

A all fy maban ddal clefyd meningococol a achosir gan facteria MenB pan fydd yn cael ei frechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol a achosir gan facteria MenB. Nid oes yr un brechlyn sy’n 100% effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig bod yn gyfarwydd ag arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis, hyd yn oed os yw’ch plentyn wedi’i frechu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Gweld yr amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru.

Adnoddau

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y brechlyn MenB neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau. 

Brigiad achosion llid yr ymennydd 

Rhagor o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Mai 2026