Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am Gyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) a'u defnydd mewn ymarfer clinigol; ochr yn ochr â chanllawiau, templedi ac adnoddau.
Ar y tudalen
Mae Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) yn gyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer gwerthu, cyflenwi a/neu weinyddu meddyginiaethau i grwpiau o gleifion nad ydynt o bosibl wedi'u nodi cyn cyflwyno i gael triniaeth.
Ar gyfer rhaglen frechu COVID-19, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn darparu templedi PGD Cymru i bob bwrdd iechyd/sefydliadau'r GIG ar gyfer gweithdrefnau adolygu, awdurdodi a chymeradwyo yn lleol.
Ar gyfer pob rhaglen frechu arall, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn darparu eu PGD imiwneiddio i Gymru fel adnodd cyfeirio yn unig i fyrddau iechyd/sefydliadau'r GIG er mwyn datblygu, llunio ac awdurdodi eu PGD eu hunain yn unol â pholisïau a gweithdrefnau llywodraethu lleol. Rydym yn cydnabod yn ddiolchgar UKHSA am ganiatâd i ddefnyddio eu PGD fel adnodd cyfeirio. Nid yw UKHSA yn caniatáu addasu nac ychwanegu logos lleol at eu PGD.
Dim ond pan fydd gwahaniaethau polisi yng Nghymru y darperir dogfen gynghori Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) gyda'r adnodd cyfeirio UKHSA.
Cyfrifoldeb pob sefydliad awdurdodi yw llywodraethu a chymeradwyo unrhyw PGD. Rhaid i ymarferwyr sy'n defnyddio PGD wedi'u hawdurdodi fod yn gyfarwydd â phob pennod berthnasol o'r Llyfr Gwyrdd, Crynodeb o Nodweddion Cynnyrch (SmPCs), polisi a chanllawiau Cymru (gweler hefyd y tudalennau sy'n benodol i frechlynnau ar y wefan hon).
Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (fel y'u diwygiwyd)
Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
Canllawiau ar ddigwyddiadau brechu: ymateb i wallau brechlyn (UKHSA)
Gwasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG Cyfarwyddyd ysgrifenedig ar gyfer gweinyddu 'brechu rhag y ffliw' tymhorol
Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion – Canllaw ymarfer meddyginiaethau MPG2 (2017, NICE)
Cadw dogfennaeth PGD (Gwasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG)
Polisi a Chanllawiau Cymru fel y'u darperir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cylchlythyrau Iechyd Cymru, Datganiadau Ysgrifenedig a Llythyrau'r Prif Swyddog (gweler hefyd y tudalennau sy'n benodol i frechlynnau ar y wefan hon)
Dogfen gynghori ar archebu, storio a thrafod brechlynnau 7fed diwygiad (Medi 2017, GIG Cymru)
Memorandwm Technegol Iechyd Cymru 07-01: Rheoli gwastraff gofal iechyd yn fwy diogel (2013, GIG Cymru) neu drwy Partneriaeth Cydwasanaethau.
Cwestiynau Cyffredin - Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD)/Cyfarwyddiadau Penodol i Gleifion (PSD) a Chyfarwyddiadau Ysgrifenedig.