Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n gorfforol iach?

Mam a dau o blant yn dawnsio

Mae'n adeg ansicr i ni i gyd ac mae aros gartref yn golygu ei bod hi'n anoddach nag arfer cadw'n gorfforol iach. Ond mae camau y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â materion a allai ein hatal ni o gynnal y lles corfforol hwnnw.

  • Mae cadw'n heini, beth bynnag fo'ch oedran neu'ch gallu, yn dod â budd gwirioneddol i'ch lles corfforol a meddyliol. Ac mae llawer o ffyrdd o gael gwared ar effeithiau eistedd y tu mewn yn rhy hir.
  • Mae bod gartref heb drefn arferol yn ei gwneud hi'n anodd iawn bwyta mor iach ag y byddwch chi'n ei wneud fel arfer. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod eisiau bwyta pan fyddwn ni dan straen, yn bryderus neu'n ddiflas, felly Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud am y peth.
  • Ydych chi wedi sylwi y gallech chi fod yn yfed mwy? Mae alcohol yn effeithio ar eich iechyd meddyliol a chorfforol a'ch bywyd bob dydd yna ond mae offer a chynghorion ar gael i'ch helpu i fonitro eich cymeriant. 
  • Gyda threulio llawer mwy o amser gartref, ydych chi wedi sylwi eich bod chi'n smygu mwy? Mae ysmygwyr mewn mwy o berygl o gael coronafeirws oherwydd bod eu hysgyfaint yn wannach ac oherwydd bod ganddynt fwy o gysylltiad o law i geg, felly dyma'r adeg iawn i fod yn meddwl am roi'r gorau i ysmygu.

Drwy gydol yr adran hon, byddwch yn dod o hyd i rai offer, cyngor a syniadau isod i'ch helpu i'ch cadw chi a'ch teulu yn gorfforol dda.  Rydym yn awyddus i glywed sut rydych yn dod ymlaen ac i chi rannu eich profiad a'ch cyngor i eraill felly cofiwch gysylltu â ni.

 

 

Darganfod mwy