Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae cadw'n egnïol yn bwysig?

Mam a dau o blant yn dawnsio

Yn ystod yr argyfwng COVID19, mae tarfu ar ein trefn arferol ac mae llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd y gallant ymarfer corff a chadw i symud, y tu mewn i'n cartrefi ac yn agos at ein cartrefi.

Mae llawer o ganllawiau swyddogol ar gael (Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU 2019) a thystiolaeth am fanteision gweithgarwch corfforol ac osgoi eistedd yn llonydd yn rhy hir.

Rydym yn gwybod y bydd cadw i symud yn ystod sefyllfa COVID19 yn helpu ein hiechyd corfforol a'n llesiant meddyliol. Bydd cynllunio ein gweithgarwch corfforol yn ein helpu i roi rhywfaint o drefn a strwythur i'r dydd, bydd yn helpu i reoli ein lefelau straen ac yn gwella ein cwsg - a chofiwch y gall fod yn hwyl hefyd!

Mae'n debyg eich bod yn sylwi nad ydych, ar hyn o bryd, yn gallu gwneud llawer o'r pethau rydych fel arfer yn eu gwneud i gadw'n egnïol. Efallai eich bod fel arfer yn cerdded i'r gwaith, i'r ysgol neu i siopa bob dydd. Efallai eich bod yn cyfarfod â ffrindiau i ymarfer corff gyda'ch gilydd. Efallai eich bod yn hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon arbennig neu'n rhan o dîm lleol. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o barhau i symud.

A ydych yn teimlo effeithiau eistedd yn llonydd gartref yn rhy hir? Os felly, ceir awgrymiadau syml isod i'ch helpu i gadw i symud ac atal yr effeithiau andwyol ar eich iechyd oherwydd eistedd.

Beth bynnag yw eich lefel gweithgarwch arferol, rydym yn gwybod bod llawer o bobl ledled Cymru yn ceisio cynnwys rhyw fath o weithgarwch corfforol yn eu harferion dyddiol newydd. Rydym yn gobeithio rhannu rhai o'u straeon ar y wefan hon yn yr wythnosau nesaf. Ni allwn aros i glywed mor greadigol mae pobl a sut maent yn cymell eu hunain a'u teuluoedd i fod yn egnïol a chodi o'u cadeiriau esmwyth ac i ffwrdd oddi wrth eu sgriniau.

I'r rhai ohonoch sydd â phlant a phobl ifanc gartref, mae hwn yn gyfle gwych i dreulio mwy o amser yn chwarae ac yn rhannu ychydig o hwyl â nhw.  Mae plant yn dysgu drwy chwarae a gyda'ch gilydd gallwch losgi rhywfaint o'u hegni a helpu i roi trefn ar eu diwrnod. Gall amser chwarae fod yn werthfawr i oedolion hefyd! Mae gan Chwarae Cymru rywfaint o gyngor ac adnoddau gwych i rieni a gofalwyr yma.

Os ydych yn hunanynysu neu gwarchod (er enghraifft oherwydd eich bod dros 70 oed, neu'n feichiog neu â chyflwr iechyd sylfaenol) ond eich bod yn iach, gallwch ymarfer corff yn ddiogel gartref neu yn yr ardd os oes gennych un, ar yr amod eich bod yn aros 2m oddi wrth unrhyw un nad ydynt o'ch cartref. Mae dolenni i adnoddau yma. Os ydych yn feichiog mae arweiniad penodol ar ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd sydd ar gael yma.

Os ydych yn sâl, cadwch eich egni er mwyn gwella. Os ydych wedi gwella o salwch yn ddiweddar (boed hynny'n COVID19 neu unrhyw gyflwr arall), cymerwch eich amser i ddod yn gorfforol egnïol eto, gan gynyddu'n raddol at eich lefelau gweithgarwch arferol cyn rhoi cynnig ar unrhyw beth ychwanegol neu newydd.