Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n egniol

Illustration of man exercising on matt in front of television

Mae'r argyfwng COVID19 yn golygu ein bod yn aros yn ein cartrefi ac yn agos at ein cartrefi yn fwy nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes - ond mae llawer o bobl yn dod o hyd i ffyrdd y gallant gael gwared ar effeithiau bod dan do yn rhy hir.  Gall hyn helpu p'un a ydych chi ddim fel arfer yn meddwl gormod am weithgarwch corfforol neu yn gyfarwydd â chymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff yn rheolaidd. 

  • Mae cadw'n egnïol, beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu, yn dod â buddiannau gwirioneddol i'ch iechyd corfforol a'ch llesiant meddyliol.
  • Gall cadw'n egnïol olygu bod yn egnïol yn eich cartref a'ch gardd: gwneud swyddi a thasgau yn y cartref, chwarae gemau gyda'ch plant neu roi cynnig ar raglen ymarfer corff strwythuredig sy'n addas i chi.
  • Gall cadw'n egnïol olygu defnyddio'r amser ymarfer corff dyddiol yn yr awyr agored y mae canllawiau'r Llywodraeth yn ei ganiatáu, i fynd am dro, rhedeg neu feicio, gan gofio gwneud hyn yn agos at eich cartref a phan allwch fod yn siŵr o ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol, i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.

Fe gewch offer, cyngor a syniadau isod i'ch helpu i'ch cadw chi a'ch teulu i symud, beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu.  Rydym yn awyddus i glywed sut hwyl a gewch arni ac i chi rannu eich profiad a'ch cyngor ag eraill sy'n defnyddio'r wefan hon.

Illustration of man exercising on matt
Pam mae cadw'n egnïol yn bwysig?

Yn ystod yr argyfwng COVID19, mae tarfu ar ein trefn arferol ac mae llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd y gallant ymarfer corff a chadw i symud, y tu mewn i'n cartrefi ac yn agos at ein cartrefi.

Sut i gadw'n gorfforol egnïol yn y cartref ac yn agos ato

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod mor bwysig yw ymarfer corff bob dydd, gan ei gynnwys fel un o'r rhesymau y gallwn adael ein cartrefi, i sicrhau ein hiechyd corfforol a meddyliol.

Illustration of woman and girl exercising 
Pa adnoddau sydd ar gael i helpu?

Mae llawer o adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i fod yn egnïol a chadw'n heini ar yr adeg hon. Byddwn yn eich cysylltu â gwefannau sydd wedi casglu'r dulliau gorau a mwyaf diogel sydd am ddim i chi eu defnyddio. 

Fideos ymarfer corff gartref

Mae arbenigwyr, athletwyr ac ambell wyneb cyfarwydd o bob rhan o’r byd chwaraeon yng Nghymru, wedi dod at ei gilydd i ddarparu fideos ymarfer.