Neidio i'r prif gynnwy

Pa adnoddau sydd ar gael i helpu?

Mam a dau o blant yn dawnsio

Mae llawer o adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i fod yn egnïol a chadw'n heini ar yr adeg hon. Byddwn yn eich cysylltu â gwefannau sydd wedi casglu'r dulliau gorau a mwyaf diogel sydd am ddim i chi eu defnyddio. 

Bydd yr adnoddau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau, felly edrychwch arnynt a gobeithio y bydd rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau.

Efallai fod gennych rai awgrymiadau i'w rhannu ar sut rydych yn cymell eich hun i ymarfer corff, a allai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill ac os ydych yn gwybod am ddulliau eraill am ddim sydd wedi gweithio i chi - rhowch wybod i ni, byddwn yn eu rhannu ag eraill. Byddai’n wych gallu cofnodi'r holl frwdfrydedd a chreadigrwydd sy'n cadw pobl ledled Cymru yn gorfforol egnïol a rhannu hyn â chymaint ohonoch â phosibl.
 

Dyma rai pethau sydd wedi gweithio i bobl eraill:
  • Ysgrifennu cynllun y gallwch (os ydych chi eisiau) ei rannu ag eraill, gan ddweud beth rydych yn mynd i'w wneud, lle rydych yn mynd i'w wneud (e.e. gosod llwybr ar gyfer cerdded, rhedeg neu feicio, yn agos at eich cartref)
  • Amrywio pethau ychydig - meddyliwch am weithgareddau sy'n cadw eich diddordeb ac sy'n rhoi manteision aerobeg, cryfder a hyblygrwydd. Mae rhai syniadau gwych yn y dolenni isod.
  • Paratoi ar gyfer y diwrnodau pan nad ydych yn teimlo fel ymarfer corff! Beth allai eich rhwystro rhag ymarfer corff neu olygu eich bod yn eistedd yn yr un lle yn rhy hir? A allwch ddod o hyd i ffyrdd o newid pethau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd?
  • Sgwrsio â phobl eraill - ymrwymo i wneud rhywbeth heddiw ac yna dweud wrthynt pan fyddwch chi wedi gwneud hynny. Mae cymeradwyaeth “rithwir” yn wych hefyd pan fyddwch yn llwyddo (neu rywfaint o gefnogaeth foesol os byddwch yn methu eich targed o drwch blewyn!)
     
Dyma rai gwefannau a fydd yn cynnwys dolenni defnyddiol i adnoddau a chyngor:
 

Sefydliad Iechyd y Byd


Chwaraeon Cymru


Chwaraeon Lloegr

Mae Chwaraeon Lloegr wedi lansio ymgyrch Join the Movement a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gan roi cyngor a dulliau i helpu pobl i gadw'n gorfforol egnïol wrth i'r wlad ddelio â'r achos o'r coronafeirws.  Mae'r wefan yn cynnwys gweithgareddau a rhaglenni i bob oedran a phob gallu . 


Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru yn elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r angen a'r hawl sydd gan blant a phobl ifanc i chwarae. Ar adeg argyfwng COVID19, mae Chwarae Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae i iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Mae gwefan Chwarae Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i rieni a dulliau i roi syniadau newydd i rieni ar sut i gefnogi chwarae eu plant gartref.


Y GIG

Mae gan wefan y GIG rai dolenni defnyddiol ar gyfer ymarfer corff gartref.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19

Cofiwch droi at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy bob amser:

Llywodraeth y DU: Cyngor ar Coronavirus

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth Ddiweddaraf am Coronavirus