Neidio i'r prif gynnwy

Fideos ymarfer corff gartref

Illustration of man exercising on matt in front of television

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio eu hymgyrch #CymruActif i gadw Cymru’n symud yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae arbenigwyr, athletwyr ac ambell wyneb cyfarwydd o bob rhan o’r byd chwaraeon yng Nghymru, wedi dod at ei gilydd i ddarparu fideos ymarfer, cynlluniau sesiynau, cymhelliant, ryseitiau maethlon a llawer, llawer mwy ar gyfer y genedl. 

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch o'r enw #InThisTogether sy'n cynnwys ymarferion cynhwysol y gallwch eu gwylio a chymryd rhan ynddynt gartref.

Beth am roi cynnig ar rai o'r sesiynau ymarfer isod a rhoi gwybod i ni sut rydych chi'n dod ymlaen trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
 

Ymarferion cartref ysgafn

Arghymellwyd gan y GIG, mae’r ymarferion hyn ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai a hefyd y rhai sydd eisiau dechrau’n araf cyn adeiladu eu ffitrwydd. 
 

Ymarfer cartref ysgafn 1

Ymarfer 10 munud gydag ymarferion syml sy'n cynnwys gwinwydden, stepio i fyny ac eistedd i sefyll.

Ymarfer cartref ysgafn 2

Estynnwch am obennydd a'i ddefnyddio ar gyfer ymarferion amrywiol yn yr ymarfer 10 munud creadigol yma. 

Ymarfer cartref cyffredinol 

Gweithiwch eich craidd gydag ymarferion sy'n cynnwys planciau (penelinoedd i ddwylo) a phlanc ochr gostwng cluniau. 

Ymarfer cartref uwch

Yn cynnwys ymarferion gwthio i fyny gyda bag cefn, sgwats pistol a chyfnewidiadau llinyn y gar ffrwydrol.

 

Chwaraeon Anabledd Cymru - Nicola a Sam