Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gadw'n gorfforol egnïol yn y cartref ac yn agos ato

Mam a dau o blant yn dawnsio

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod mor bwysig yw ymarfer corff bob dydd, gan ei gynnwys fel un o'r rhesymau y gallwn adael ein cartrefi, i sicrhau ein hiechyd corfforol a meddyliol.

Mae pobl ledled Cymru yn dod o hyd i bob math o ffyrdd o gadw'n egnïol. Gall hyn fod drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein a rhaglenni sy'n cael eu hybu gan bobl enwog, neu gall fod drwy gerdded neu arddio yn heulwen y gwanwyn. Beth bynnag rydych yn dewis ei wneud, cofiwch fod cadw'n egnïol nid dim ond yn golygu ymarfer corff sy'n eich cael allan o wynt, ond symud sy'n helpu i feithrin eich cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd. Mae'n bosibl cael yr holl fuddion iechyd corfforol hyn, yn ogystal â'r effeithiau cadarnhaol ar eich hwyliau a boddhad personol, yn y cartref. Mae llawer o adnoddau ar-lein ar gael sy'n dangos i chi sut i wneud hynny, lle bynnag rydych chi'n dechrau arni.
 

Diogelu eich Hun - Diogelu'r GIG

Peidiwch â gorwneud pethau - mae newidiadau bach yn ddefnyddiol, gan gynyddu eich lefelau gweithgarwch os ydych yn rhoi cynnig ar bethau newydd neu os nad ydych wedi gwneud rhaglen ymarfer corff ers peth amser. Mae'n well dechrau'n araf a chynyddu eich gweithgarwch corfforol yn hytrach na gwthio eich hun yn rhy galed a digalonni o'r cychwyn. Os byddwch yn penderfynu cadw'n egnïol drwy lanhau, neu ei bod hi'n hen bryd mynd i'r afael â thasgau'r cartref neu weithio yn yr ardd, cofiwch beidio â chymryd unrhyw risgiau diangen a allai arwain at anaf.  
 

Cadw'n Egnïol Gartref

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich diwrnod, i ymarfer corff a symud yn aml gartref. Gosodwch larwm ar eich ffôn i dorri ar eich amser yn eistedd yn llonydd, neu ymrwymwch i godi a symud o gwmpas yn ystod unrhyw hysbysebion pan fyddwch yn gwylio'r teledu.

Mae llawer o adnoddau ar gael ar-lein am ddim sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu a fydd yn eich helpu i ymarfer corff gartref. Cofiwch ddod o hyd i rywbeth sy'n cyd-fynd â'ch gallu nawr - gallwch symud ymlaen i rywbeth mwy egnïol yn nes ymlaen.

Beth am drefnu sgwrs ddyddiol â phobl rydych yn eu hadnabod sy'n ceisio ymarfer corff fel chi? Beth am eich cydweithwyr neu aelodau o glybiau a grwpiau rydych chi fel arfer yn mynd iddyn nhw? Os nad yw hynny'n addas i chi, bydd llawer o adnoddau yn eich galluogi i gymharu eich cynnydd â phobl eraill ar-lein, neu efallai y byddwch am sgwrsio â theulu a ffrindiau a rhannu cynnydd eich gilydd.
 

Cadw'n Egnïol yn yr Awyr Agored, yn agos at eich Cartref

Os ydych yn gallu gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd, cofiwch gadw 2m ar wahân i unrhyw un nad yw o'ch cartref, bydd hyn yn fuddiol iawn i'ch iechyd corfforol a'ch llesiant meddyliol.

Efallai y byddwch am fynd i gerdded, i redeg neu feicio yn agos at eich cartref. Mae manteision iechyd y gweithgareddau fforddiadwy a hygyrch hyn yn glir. Efallai eich bod eisoes yn rhedwr, yn gerddwr neu'n feiciwr brwd, ac yn gallu addasu eich llwybr er mwyn cadw'n agos at eich cartref. Ond os ydych yn newydd i redeg, beicio neu hyd yn oed gerdded ar gyfer iechyd, ceir adnoddau a dolenni ar y wefan hon i'ch helpu i ddechrau arni'n ddiogel, gan sicrhau eich bod yn datblygu'n raddol ac yn osgoi syrthio ar y rhwystr cyntaf. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am wefannau sefydliadau sy'n rhoi cyngor ar redeg, beicio a cherdded ar gyfer iechyd. Pwy a ŵyr, os nad ydych eisoes yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, efallai y dewch o hyd i angerdd neu hobi newydd a bydd y sefydliadau hyn yn gallu eich helpu i ddatblygu hynny ymhellach ar ôl i sefyllfa COVID19 ddod i ben?