Neidio i'r prif gynnwy

Ysmygu

Illustration of a packet of cigarettes 

Gyda'r newidiadau i'ch trefn arferol, gan gynnwys treulio llawer mwy o amser gartref, a ydych chi wedi sylwi eich bod yn smygu mwy? Neu a ydych wedi bod yn meddwl am sut y gallai smygu effeithio ar eich iechyd a'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw?  Nawr yw'r amser i feddwl am roi'r gorau i smygu.

Mae smygwyr mewn mwy o berygl o gael coronafeirws oherwydd bod eu hysgyfaint yn wannach ac oherwydd bod mwy o gysylltiad rhwng y llaw a'r geg.  Ar ôl ei heintio, mae smygwr yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau difrifol o'r feirws. Yn ogystal, bydd gan lawer o smygwyr gyflyrau ysgyfaint sy'n bodoli eisoes a gwyddom fod hyn yn eu gwneud yn fwy agored i niwed o ran effeithiau'r feirws. Drwy roi'r gorau i smygu, gallwch gynyddu effeithlonrwydd eich ysgyfaint a llif yr ocsigen i mewn i'ch gwaed. Mae hyn yn bwysig oherwydd po fwyaf effeithlon yw eich ysgyfaint, gorau oll yw'ch siawns o wella o coronafeirws.

Os ydych yn smygu yn eich cartref neu yn yr ardd ger y bobl rydych yn byw gyda nhw, byddant yn dod i gysylltiad â mwg ail-law. Mae dod i gysylltiad â mwg ail-law yn cynyddu eu risg o heintiau anadlol fel coronafeirws.

Efallai eich bod wedi ceisio rhoi'r gorau iddi yn y gorffennol neu'n teimlo nad nawr yw'r adeg gywir oherwydd eich bod dan straen ac yn poeni am eich teulu a'r dyfodol. Fodd bynnag, y newyddion da yw os byddwch yn rhoi'r gorau i smygu bydd eich llesiant meddyliol yn gwella ac rydych yn llai tebygol o deimlo'n bryderus neu'n isel eich ysbryd. Mae hyn oherwydd er bod pobl yn aml yn meddwl bod smygu yn lleihau straen, mewn gwirionedd chwant y corff am nicotin sy'n gwneud iddynt deimlo'n bryderus neu dan straen.

Felly beth sy'n eich atal? Rhoi'r gorau i smygu yw'r peth gorau y gallwch ei wneud i'ch iechyd chi a'ch teulu a bydd yn helpu i leihau'r pwysau enfawr ar y GIG.

Y ffordd orau y gallwch roi'r gorau i smygu yw gyda chymorth Helpa Fi i Stopio gan y GIG. Oherwydd bod yn rhaid i ni gadw pellter cymdeithasol rydym bellach yn cefnogi smygwyr i roi'r gorau iddi dros y ffôn. Byddwch yn cael cefnogaeth wythnosol gan Arbenigwr Rhoi'r Gorau i Smygu a mynediad i feddyginiaeth rhoi'r gorau i smygu.

Nid ydym yma i feirniadu na rhoi darlith i chi a bydd eich Arbenigwr Rhoi'r Gorau i Smygu gyda chi bob cam o'ch taith tuag at fod yn ddi-fwg. Felly beth am ymuno â'r 15,000 o bobl yng Nghymru sy’n cael cymorth gan Helpa Fi i Stopio bob blwyddyn?

Gwrandewch ar stori Suzie i gael gwybod sut y gall Helpa Fi i Stopio eich helpu chi.

Dechreuwch eich taith i roi'r gorau iddi nawr drwy ffonio 0800 085 2219, tecstio HMQ i 80818 neu lenwi'r ffurflen galwad yn ôl yn helpafiistopio.cymru

Rydych yn fwyaf tebygol o roi'r gorau i smygu drwy gael cymorth gan Helpa Fi i Stopio a defnyddio meddyginiaeth rhoi'r gorau i smygu. Fodd bynnag os ydych yn mynd i roi'r gorau iddi ar eich pen eich hun gallwch gynyddu eich cyfle drwy ddefnyddio apiau symudol sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel Smoke Free – Quit Smoking Now and Stop Forever. Y ffordd orau o ddefnyddio'r apiau hyn yw gyda therapi disodli nicotin (NRT) y gellir ei brynu o'ch archfarchnad leol. Mae cyflenwad wythnos o gwm neu glytiau NRT yn costio tua phris pecyn o sigaréts.

Gellir lawrlwytho'r fersiwn safonol o Smoke Free - Quit Smoking Now and Stop Forever am ddim o:

Siop Apiau Apple 

Google Play 

Mae rhai pobl yn sylwi bod defnyddio sigarét electronig yn ddefnyddiol i'w helpu i roi'r gorau i smygu. Er nad ydym yn gwybod beth yw'r niwed hirdymor o ddefnyddio sigaréts electronig, neu a ydynt yn effeithio ar eich risg o gael eich heintio gan coronafeirws, maent yn llai niweidiol na pharhau i smygu. Dylech brynu sigaréts electronig o'ch archfarchnad leol neu ddosbarthwr ar-lein dibynadwy. Ni ddylid rhannu sigaréts electronig â phobl eraill.

Sigaréts electronig

Os nad ydych yn barod i roi'r gorau iddi, dylech ystyried newid i sigaréts electronig. Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod sut y mae fepio yn effeithio ar eich risg o gael coronafeirws neu allu eich corff i ymdopi â'r feirws. Fodd bynnag, mae fepio yn llai niweidiol na pharhau i smygu. Dylech brynu sigaréts electronig o'ch archfarchnad leol neu ddosbarthwr ar-lein dibynadwy. Ni ddylid rhannu sigaréts electronig â phobl eraill.

 

Lleihau eich defnydd o sigaréts

Os nad ydych yn barod i roi'r gorau iddi eto ac yn amharod i newid i sigarét electronig, ystyriwch sut y gallech leihau nifer y sigaréts rydych yn eu smygu y diwrnod. I wella effeithlonrwydd eich ysgyfaint ac i leihau eich risg o gael eich heintio gan coronafeirws dylech geisio rhoi'r gorau iddi o fewn ychydig wythnosau.

Awgrymiadau ar gyfer lleihau nifer y sigaréts rydych yn eu smygu:

  • Gosodwch gynllun i'ch hun gyda dyddiad rhoi'r gorau iddi a faint rydych am dorri i lawr bob dydd neu wythnos cyn y dyddiad rhoi'r gorau iddi.
  • Defnyddiwch NRT (nicotine replacement therapy) sy'n gweithredu'n gyflym, fel gwm neu losen yn lle sigaréts. Gellir prynu'r rhain o'ch archfarchnad leol. Mae'n ddiogel defnyddio NRT wrth leihau nifer y sigaréts yr ydych yn eu smygu.
  • Gofynnwch i bobl yn eich cartref am eu cymorth, e.e. os ydych yn byw gyda smygwr, ewch ati i dorri i lawr gyda'ch gilydd a gosod yr un dyddiad ar gyfer rhoi'r gorau iddi.
  • Rhowch eich sigaréts, matsis, taniwr a'ch blwch llwch o'r golwg pan na fyddwch smygu, e.e. mewn cwpwrdd.
  • Ystyriwch yr adegau o'r dydd a'r hyn rydych yn ei wneud pan fyddwch yn fwyaf tebygol o deimlo fel smygu a meddyliwch am ffyrdd y gallwch dynnu eich sylw neu newid eich arfer.
  • Ymrwymwch i smygu yn yr awyr agored i ddiogelu eich anwyliaid.

Da iawn am roi'r gorau i smygu. Mae'n arferol i gyn-smygwyr deimlo'r awydd i smygu mewn cyfnod anodd neu straen. Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu os byddwch yn teimlo'r awydd i smygu.

  • Oedi – peidiwch â gweithredu ar yr awydd ar unwaith. Arhoswch i weld a yw'r awydd yn pasio
  • Yfwch – mynnwch wydraid o ddŵr oer neu sudd ffrwythau
  • Anadlwch yn ddwfn - cymerwch sawl anadl ddofn
  • Tynnu eich sylw – ewch i wneud rhywbeth arall i dynnu eich meddwl oddi ar yr awydd am sigarét
  • Ysgrifennwch gynllun o ddatganiadau OS-YNA a'u rhannu â'r bobl sy'n byw gyda chi a all eich cefnogi, e.e. os ydw i'n teimlo'r awydd i smygu am fy mod wedi diflasu, yna byddaf yn gofyn i fy mhartner roi tasg neu orchwyl i mi er mwyn tynnu fy sylw