Neidio i'r prif gynnwy

Alcohol

Illustration of a glass of wine and a pint glass

A ydych chi wedi sylwi eich bod yn yfed mwy? Efallai eich bod wedi diflasu, yn unig, yn rhwystredig, yn bryderus neu'n ddig ac yn yfed mwy o alcohol o ganlyniad i hynny.

A ydych chi wedi bod yn prynu mwy o alcohol ers hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol? A ydych yn yfed yr alcohol sydd gennych yn y tŷ yn gyflymach nag arfer? A ydych wedi dechrau yfed yn ystod y dydd neu ar ddiwrnodau nad ydych yn yfed fel arfer?

Po fwyaf o alcohol a yfwn, y mwyaf y mae'n effeithio ar ein gallu i ymladd bacteria a feirysau - gall hyn arwain at risg uwch o haint a salwch.  Ar hyn o bryd mae arnom i gyd angen i amddiffynfeydd ein cyrff fod mor gryf â phosibl, wrth i'r Coronafeirws ledaenu yng Nghymru.

Gall yfed hefyd effeithio ar sut y mae meddyginiaethau'n gweithio – gall atal y feddyginiaeth rhag gweithio cystal. Mae arnom angen i'ch meddyginiaeth weithio fel arfer, i'ch helpu chi, a'n GIG yn ystod yr argyfwng hwn.

Sut fyddai yfed llai o alcohol yn llesol i chi? Dyma beth mae pobl eraill wedi'i ddweud:

  • Rwy'n cysgu'n well, ac yn teimlo'n fwy ffres a llawn egni
  • Teimlo’n well a gwell hwyliau
  • Colli pwysau
  • Risg is o ddamwain neu anaf
  • Llai tebygol o ddechrau ymladd
  • Mwy o arian

Os ydych am wybod am effaith alcohol ar eich iechyd a'ch bywyd bob dydd gallwch glicio yma.

 

Canllawiau Yfed Alcohol

Nid oes terfyn diogel ar faint o alcohol y gall pobl ei yfed.  Felly rydym yn argymell eich bod yn cadw o fewn y canllawiau presennol.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n yfed alcohol, yn gwneud hynny o fewn y canllawiau. Dilynwch y canllawiau hyn er mwyn cadw'ch hun yn iachach ac i ddiogelu'r GIG:

  • Yfwch lai na 14 uned yr wythnos
  • Lledaenwch unrhyw yfed dros dri diwrnod neu fwy.
  • Os ydych yn feichiog, neu os oes siawns y gallech fod yn feichiog, y peth mwyaf diogel yw peidio ag yfed o gwbl.

Rydym yn deall y gall fod yn anodd mesur neu wybod faint rydych yn ei yfed, neu sut beth yw uned o alcohol mewn gwirionedd, yn enwedig gartref. Mae apiau ar gael sy'n eich helpu i olrhain faint rydych yn ei yfed, neu gallech gadw dyddiadur, neu ddefnyddio cyfrifiannell unedau ar-lein.

 

Ystyried eich yfed

Beth yw eich sgôr? Rhowch gynnig ar ein cwis ‘ystyried eich yfed’ i weld sut beth yw eich cymeriant alcohol.

A allwch chi fod fel y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n yfed alcohol, a gwneud hynny o fewn y canllawiau?

Dyma rai ffyrdd sydd wedi'u profi y mae pobl o bob rhan o Gymru wedi dweud wrthym sy'n eu helpu i dorri i lawr ar faint o alcohol maent yn ei yfed: 

  • ‘Cyfnewid’ eu diod arferol am - ddiod lai; diod cryfder is; diod feddal; neu fesur sengl nid dwbl
  • Cynllunio pryd i gael diwrnodau di-alcohol a chadw atyn nhw
  • Oedi eu hyfed hyd nes mor hwyr â phosibl yn ystod y dydd
  • Sicrhau eu bod wedi bwyta cyn yfed
  • Peidio â phrynu alcohol wrth fynd i'r siop, felly os nad yw yn y tŷ ni allwch ei yfed. Neu ei guddio yn rhywle a'i gadw ar gyfer achlysur arbennig (pell o'r golwg, pell o'r meddwl)
  • Arhoswch nes bod y plant yn y gwely cyn cael diod
  • Pennu nod neu her a chynilo'r arian a werir fel arfer ar alcohol
  • Torri i lawer ar alcohol yn llwyr. Beth am her COVID sych?

Rydym yn deall nad yw'n hawdd gwneud newidiadau, yn enwedig yn y cyfnod anodd ac ansicr hwn.

Meddyliwch am beth fydd eich her eich hun wrth dorri i lawr ar eich yfed, a sut y byddwch yn dod drwyddi.

Mae asiantaethau ar gael i helpu i'ch cefnogi chi, a gallwch bob amser siarad â'ch meddyg teulu neu eich fferyllydd os ydych yn pryderu am faint rydych yn ei yfed a sut i dorri i lawr.

 

Dolenni i gymorth pellach

DAN 24/7

Alcohol Change UK 

Drinks Meter

Alcoholics Anonymous

Yfed Doeth Heneiddio'n Dda

Mind