Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi ei wneud i fwyta'n dda

Illustration of fruit bowl

Rydych chi'n gwybod eich arferion bwyta yn well nag unrhyw un arall A ydynt wedi newid? Beth gallech chi wella tybed? Gall bwyta'n dda ein helpu i gadw'n gryf, yn iach ac yn optimistaidd a chyda pheth cynllunio, gwneud i'n harian fynd ymhellach.

Dyma rai o'r ffyrdd y mae pobl o bob rhan o Gymru yn defnyddio bwyd i ofalu am eu hunain a'i gilydd:

 

Cynllunio'r siopa wythnosol

Beth fyddai'n eich helpu i gynllunio'r siopa? Gall llunio rhestr siopa ein helpu i osgoi prynu'n fyrbwyll a chadw at ein cyllidebau. Efallai na fydd rhai o'n ffefrynnau bwyd arferol ar gael ar hyn o bryd felly meddyliwch am ddewisiadau eraill rhag ofn na fyddwch yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych chi ei eisiau. Cliciwch yma i gael rhestrau a chynlluniau enghreifftiol.

 

Bwyta amrywiaeth o fwydydd

Bydd bwyta amrywiaeth o fwydydd yn rhoi'r cyflenwad o faethynnau sydd eu hangen arnom i gadw'n iach ac yn gryf. Mae llawer o bobl yn defnyddio'r canllaw Bwyta'n dda i'w helpu i fwyta deiet iach a chytbwys. Gall cymryd atchwanegiad fitamin D helpu hefyd gan ein bod yn treulio mwy o amser dan do.

 

Cyfnewid byrbrydau afiach am ddewisiadau iach

Ceisiwch gyfyngu ar y byrbrydau afiach sydd ar gael yn y tŷ drwy lynu at eich rhestr. Pa fyrbrydau y gallwch eu cyfnewid? Mae syniadau yma.

 
Cadw at eich patrwm prydau rheolaidd

Gall cynnal ein hamser prydau bwyd arferol, a llunio cynlluniau bwyd, ein helpu i aros yn ymwybodol o'r hyn rydym yn ei fwyta a rhoi rhywfaint o strwythur i'r diwrnod. Sut rydych chi'n dod o hyd i ffyrdd o gadw rhywfaint o strwythur yn eich diwrnod? Beth sy'n eich helpu i roi'r gorau i anelu am yr oergell rhwng prydau bwyd?

 

Rhoi cynnig ar goginio gartref

Beth ydych chi wedi ei baratoi yn ddiweddar? Gall coginio gartref olygu bod y bwyd rydych yn ei goginio yn iach a blasus - a gall eich helpu i arbed arian hefyd. Mae llawer o bobl o'r farn bod coginio yn ffordd o ymlacio a chysylltu â theulu a ffrindiau drwy rannu eich llwyddiannau, eich awgrymiadau a'ch syniadau. Ewch i’r dolenni isod i gael rhagor o syniadau.

Ar gyfer ti dy hun.

Coginio gyda plant.

I’r teulu gyfan.

 

#Bwydteulu

Gallwch ddefnyddio’r amser rydych chi’n ei dreulio’n paratoi bwyd i wneud gweithgareddau eraill i’ch helpu i gadw’n iach a hapus gartref.

Rhowch gynnig ar y ryseitiau #bwydteulu hawdd hyn. Maen nhw’n fach o ran amser, cynhwysion ac arian, ond yn iachus i’r teulu i gyd.

Mae’r ryseitiau hyn yn gwneud defnydd o beth sydd yn y tŷ yn barod, ond gallwch chi gyfnewid cynhwysion os oes angen. Ceisiwch wneud sypiau o fwyd fel bod gennych ddigon o brydau i bara rhai diwrnodau.

Defnyddiwch y cynlluniau bwyd, rhestri siopa a syniadau cyfnewid bwyd fel ysbrydoliaeth i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw, cadw at drefn a bwyta mor dda â phosib. 

 

Cyfyngu ar faint dognau

Gall sylwi ar faint dognau helpu i gynyddu ein hymwybyddiaeth o faint rydym yn ei fwyta. Rhowch gynnig ar y canllaw defnyddiol hwn ar un dudalen.

 

Defnyddio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â bwyd os ydych yn gymwys (e.e. talebau cychwyn iach, prydau ysgol am ddim)

Efallai y bydd angen i lawer mwy ohonom fanteisio i'r eithaf ar gymorth cymunedol fel Banciau Bwyd a thalebau siopa. Mae llawer o bobl yn defnyddio cymorth fel hyn i gadw eu hunain yn iach ac yn gryf. Edrychwch ar ein dolenni i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi. 

I ddarganfod os ydych chi'n gymwys i gael talebau cychwyn iach, neu i wneud cais, ewch i wefan cychwyn iach.

I ddarganfod ble mae'ch banc bwyd agosaf ewch i Trussell Trust neu FareShare.

Gall teuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddarganfod sut i gael gafael ar gymorth gan eu hawdurdod lleol.
 

Osgoi deietau mympwyol

Mae cyfryngau cymdeithasol a phrint yn llawn o straeon am ddeietau penodol iawn neu fwydydd daionus sy'n honni amddiffyn rhag Coronafeirws. Y deiet gorau i'w ddilyn yw deiet amrywiol a chytbwys, a argymhellir gan Faethegwyr a Deietegwyr Iechyd Cyhoeddus AfN Cofrestredig. Defnyddiwch ffynonellau credadwy o wybodaeth am fwyd gan gynnwys safleoedd y GIG, Cymdeithas Ddeieteg Prydain ac eraill ar ein tudalennau adnoddau.