Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n dda gartref

illustration of a fruit bowl and a cup

Mae pobl ledled Cymru yn aros gartref i ddiogelu'r GIG ac achub bywydau. Ar yr un pryd gall y newid hwn i'n harferion bob dydd olygu bod eich patrymau bwyta arferol wedi newid hefyd. Efallai na fyddwch yn gallu prynu eich bwyd arferol. Os oeddech yn arfer bod allan o'ch cartref ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau efallai ei bod bellach yn haws cael gafael ar fwyd drwy'r dydd. Efallai eich bod yn teimlo fel bwyta mwy os ydych dan straen, yn bryderus neu wedi diflasu. A yw'r newidiadau rydych yn mynd drwyddynt wedi arwain at fwyta'n llai iach? Felly beth allwn ni ei wneud am hyn?

Sgroliwch i lawr i gael gwybod

  • pam mae bwyta'n dda ar hyn o bryd yn bwysicach nag erioed i'ch cadw'n gryf ac yn iach
  • awgrymiadau y mae pobl ledled Cymru yn eu cael yn ddefnyddiol
  • offer ac adnoddau i'ch helpu chi a'ch teulu i fwyta'n dda y gwanwyn hwn. 

Rhowch wybod i ni sut hwyl a gewch arni ar cyfryngau cymdeithasol ac os gallwch rannu eich syniadau, awgrymiadau, ryseitiau a dolenni gallwch helpu eraill ledled y wlad sy'n ceisio bwyta'n dda hefyd.

Pam mae'n bwysig bwyta'n dda?

Gall bwyta'n dda ein helpu i deimlo'n gadarnhaol ac yn gryf yn feddyliol ac yn gorfforol - pam mae'n bwysig i chi?

Beth allwch chi ei wneud i fwyta'n dda

Edrychwch ar y ffyrdd y mae pobl yn defnyddio bwyd i ofalu amdanyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.

Illustration of fruit bowl
Pa offer sydd ar gael i helpu?

Cliciwch yma i ddod o hyd i offer ac adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu chi a'ch teulu i fwyta'n dda.