Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae'n bwysig bwyta'n dda?

Illustration of fruit bowl

Beth sy'n bwysig i chi? Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl am wneud popeth o fewn eu gallu i gadw'n iach yn ystod y sefyllfa bresennol. A allai coginio iach fod yn rhan o'ch trefn arferol sy'n eich helpu i aros yn iach yn gorfforol ac feddyliol?


A ydych am gadw'n iach ac yn gryf?

Rydym yn gwybod bod cadw'n heini ac yn iach yn un o'n prif flaenoriaethau ar hyn o bryd. Gall bwyta amrywiaeth o fwydydd fod yn ddefnyddiol er mwyn hybu ein systemau imiwnedd.
 

A ydych wedi sylwi bod eich hwyliau wedi newid?

Gall fod yn anodd aros yn bwyllog ac yn gadarnhaol yn ystod y cyfyngiadau symud ond mae llawer ohonom yn dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn. Gall bwyd gwych ac yfed digon o ddŵr godi eich hwyliau a rhoi hwb i'ch egni heb wneud i'ch siwgr yn y gwaed godi a disgyn yn gyflym, na magu pwysau. 
 

A ydych yn poeni am fagu pwysau?

A ydych yn pryderu am ganlyniadau mynd i'r oergell yn aml a bwyta byrbrydau yn ddi-baid? Gall lleihau byrbrydau a chludfwyd, neu eu cyfnewid am opsiynau iachach, helpu i gadw'r pwysau i ffwrdd, yn enwedig pan fyddwn o bosibl yn llai egnïol nag arfer.
 

A ydych yn poeni am gyllid?

Gyda llai o arian yn dod i mewn, llai o gyllideb siopa, beth allwch chi ei wneud i arbed arian a bwyta'n iach? Gall coginio prydau syml o'r dechrau helpu i wneud i arian fynd ymhellach. Mae'n rhyfeddol sut y gall prydau parod godi'r bil siopa.