Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond roedd fy nghelloedd yn normal. Pam ydw i wedi cael fy atgyfeirio i glinig colposgopi?

Bydd pedwar o bob pump ohonom yn cael HPV ar ryw adeg yn ein bywydau. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf ohonom yn clirio'r feirws yn naturiol o fewn dwy flynedd. Os bydd haint HPV yn parhau, gall weithiau achosi newidiadau i gelloedd serfigol a allai, os byddant yn cael eu gadael heb eu trin, arwain at ganser ceg y groth. Gan ein bod wedi nodi bod gennych HPV o hyd, rydym wedi eich atgyfeirio i glinig colposgopi er mwyn gwirio eich ceg y groth am unrhyw newidiadau.